Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 08/11/23

Dyddiad y Cyfarfod : 08/11/2023

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

23/23 Adroddiad ISA260 i’r rhai sydd â chyfrifoldeb Llywodraethu
Bydd Archwilio Cymru yn gwneud cyflwyniad ar eu Hadroddiad ISA260: Cyfathrebu ynglŷn â Datganiadau Ariannol â’r rhai sydd â chyfrifoldeb Llywodraethu

24/23 Adroddiad Cynnydd ar Archwilio Mewnol
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd tuag at gyflawni Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2023/24, yn ogystal â chrynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yn hyn.

25/23 Log Gweithredu ar gyfer Archwilio Perfformiad yn Allanol ac Archwilio Mewnol (Yn dod i ben ar 30 Medi 2023)
Yn dilyn cais gan yr Aelodau, mae Log Gweithredu ar gyfer Archwilio Perfformiad yn Allanol ac Archwilio Mewnol wedi’i greu i gynorthwyo gyda’r gwaith o fonitro’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt o’r adolygiadau Archwilio.

26/23 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Medi 2023
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2023

27/23 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 30 Medi 2023
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Medi 2023

28/23 Cynllun Parhad Busnes
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Cynllun Parhad Busnes diweddaraf, sydd wedi’i ddiwygio yn unol ag argymhelliad archwilio mewnol.

29/23 Adroddiad Chwarterol Iechyd, Diogelwch a Lles
Mae’r adroddiad yn rhoi diweddariad byr ar faterion Iechyd a Diogelwch.

30/23 Syndrom Dirgryniad Llaw Braich (HAVS) – Adroddiad Diweddaru
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar waith yr Awdurdod i wella’r mesurau ar reoli Dirgryniad Llaw Braich gyda ffocws penodol ar waith y Tîm Rheoli Cefn Gwlad.

31/23 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

7.  Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.