Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol

Dyddiad y Cyfarfod : 08/07/2020

Rhith-Gyfarfod, 10am

1. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:         Neb

2. Ethol Dirprwy Gadeirydd am y flwyddyn sy’n dod

Enwebiad derbyniedig:         Dr R Heath-Davies

 3. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

4. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

5. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2020

6. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

14/20 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mai 2020

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mai 2020

15/20 Diweddariad Iechyd a Diogelwch

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ebrill – Mehefin 2020 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

16/20 Cofrestr Risg

Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

7.   Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar y Datganiad o Gyfrifon 2019/20.

8.   Derbyn cyflwyniad ar Gynllun Adfer APCAP

9.    Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

Lawrlwythwch y cofnodion