Walkability

I bobl o bob gallu

Mae’r Prosiect “Walkability” wedi ei greu i gynorthwyo pobl o bob gallu sy’n byw yn Sir Benfro i fwynhau’r arfordir a’r cefn gwlad godidog o’u hamgylch.

Mae gan y Prosiect gydlynydd penodedig all:

  • gynghori grwpiau am lwybrau cerdded lleol addas
  • arwain grwpiau ar deithiau cerdded sy’n ateb eu anghenion
  • gweithio ag arweinyddion gwirfoddol a darparu hyfforddiant
  • cysylltu unigolion â grwpiau cerdded lleol
  • cynorthwyo pobl ag anghenion arbennig i fod yn heini gan ddefnyddio llwybrau cerdded.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy defnyddio’r manylion isod:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Parc Llanion
Doc Penfro
SA72 6DY
Ffôn: 01646 624800
Ebost: discovery@pembrokeshirecoast.org.uk