Abercastell/Cwm Badau

Traeth mynediad hwylus sy'n gyfeillgar i gŵn

Cildraeth a phentref prydferth, gyda thraeth o dywod mwdlyd a graean bras sydd yn lle gwych i bysgota, deifio, caiacio, hwylio, cerdded a lansio oddi ar lithrfa.

Cildraeth a phentref prydferth, gyda thraeth o dywod mwdlyd a graean bras. Mae’n wynebu’r gogledd-orllewin ac wedi’i gysgodi rhag wyntoedd cryfion y de-orllewin ac mae’n hafan ddiogel i’r cychod pysgota lleol.

Yn y gorffennol, roedd yn borthladd cargo prysur. Gorwedd Carreg Sampson, siambr gladdu Neolithig drawiadol, i’r gorllewin o’r traeth ac ychydig tua’r tir.

Mae Cwm Badau yn arbennig o boblogaidd ymhlith deifwyr lleol, ac mae hyn yn gallu arwain at dagfeydd os oes gormod o geir a threlars yn ceisio cyrraedd y traeth.

 

Cyflesterau

Mae yna doiledau ar ymyl y traeth a ffôn yn y pentref. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor.

Mae yna gaffi a thafarn ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Nhrefin. A wnewch chi gadw Abercastell yn hardd a defnyddio’ cyfleusterau sydd ar gael neu fynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

 

Cyfeillgar i gŵn?

Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn.

 

Mynediad hwylus?

Mae yna lithrffordd ar ychydig bach o oleddf sy’n rhoi mynediad hwylus i’ tywod. Ramp goncrit: 1:15 i 1:12 am 19 metr, yn arwain at dywod meddal.

 

Cyrraedd

Fe allwch gyrraedd Abercastell ar eich beic, oherwydd mae’r Llwybr Celtaidd yn rhedeg heibio’r cildraeth. You can get to Abercastle by bike, with the Celtic Trail running right past the cove. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.

Mae’r traeth hwn yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.

Mae Bws Arfordirol y Gwibiwr Strwmbl yn stopio yn Abercastell. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Yn y car, fe allwch gyrraedd Abercastell o heol Tyddewi-Abergwaun (yr A487) trwy Drefin neu Fathri. Mae yna barcio cyfyngedig iawn.

Cyngor ar ddiogelwch

  • Ni chynghorir nofio yma oherwydd y defnydd o gychod ac ansawdd y dŵr.

 

Is-ddeddfau

  • Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
  • Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.

Dod o hyd i'r traeth hwn

Cyfeirnod Grid: SM852336. Côd post: SA62 5HJ