Abercastell

Teithiau Byr

Arfordir Abercastell

Pellter: 2.5 milltir (4.0 km)
Cyfeirnod map: SM863337
Cymeriad: Arfordirol, cerdded ar ymyl clogwyni, llwybrau fferm, peth cerdded ar heolydd bach. Dwy sticil, grisiau.

O’r arhosfan bysiau: cerddwch i fyny’r tyle ar yr heol. O’r maes parcio: gadewch y maes parcio a throwch i’r chwith ar unwaith dros bont droed slabiau cerrig.

Parhewch i fyny’r grisiau ac ar y top trowch i’r chwith ac yna i’r dde i drac. Wedi cyrraedd yr heol, trowch i’r chwith. Dilynwch yr heol, a lle mae’n troi i’r dde, ewch yn syth ymlaen i lawr trac cul de sac.

Chwiliwch am sticil garreg a mynegbost ar y chwith, croeswch a dilynwch y llwybr with ymyl y cae, gan gadw’r clawdd ar y chwith. Ar y gwaelod, trowch i’r chwith i Lwybr yr Arfordir.

Dilynwch Lwybr yr Arfordir yr holl ffordd yn ôl i Abercastell. Wrth i chi gyrraedd y tai, dilynwch y llwybr i lawr y grisiau ac yn ôl i’r maes parcio. I gyrraedd yr arhosfan bysiau, trowch i’r chwith wrth y mynegbost ychydig uwchben y maes parcio.

Abercastle

Carreg Samson

Pellter: 1.2 milltir (1.9 km)
Cyfeirnod map: SM849336
Cymeriad: Caeau ag anifeiliaid, cerdded ar heolydd bach. 1 sticil, grisiau.

O’r arhosfan bysiau: cerddwch i lawr y tyle ar yr heol. O’r maes parcio: cerddwch yn ôl i’r brif ffordd a throwch i’r dde. Dilynwch y brif ffordd tuag at Trefin (arwydd ar gyfer y Ship Inn ayb), yna trowch i’r dde yn Longhouse Farm.

Ble mae’r trac mynediad yn troi i’r chwith, trowch i’r dde trwy’r giât a dilynwch y llwybr wrth ymyl y cae, gan gadw’r wal ar y chwith. Wrth y giât, trowch i’r dde ac yna i’r chwith ar unwaith ar y llwybr wrth ymyl y cae, gyda’r ffens ar y chwith.

Croeswch y sticil a throwch i’r dde ar y llwybr wrth ymyl y cae, gyda’r ffens ar y dde, ewch i lawr y grisiau a dilynwch Lwybr yr Arfordir yn ôl i’r maes parcio.

I fynd i’r arhosfan bysiau, trowch i’r dde wrth y llithrffordd ac yna i’r chwith ar y brif heol.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM863337

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau