Lydstep/Skrinkle

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.6 milltir (2.7 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth pentref Lydstep 349/359, maes parcio
CYMERIAD: Cylch cerdded gwastad ar gopa’r clogwyni i Lydstep, graddiannau serth i Skrinkle, da byw
CHWILIWCH AM: Gwartheg (rhan o brosiect pori arfordirol) • golygfeydd o garreg galch • ceudyllau
MWY O WYBODAETH: Mynediad i gerddwyr i draeth Skrinkle ar gau oherwydd ansefydlogrwydd y clogwyni.

Dewch i archwilio ceudyllau cyfareddol a chlogwyni trawiadol…

O dan bentir Lydstep, a thu hwnt, mae ceudyllau enwog Lydstep, y dylid eu harchwilio pan fydd y llanw’n isel yn unig. Mae’r holl dir uwchlaw’r ogofau,a ’r ogofau eu hunain, yn eiddo i’r
Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gwylanod y graig, gweilch y penwaig a gwylanod (penwaig) gan fwyaf, yn nythu yma, gyda’r jac-y-do hollbresennol. Efallai y bydd morloi’n geni eu rhai bach yn yr hydref yn yr ogofau ac mae merlod yn pori rhostir yr arfordir.

Mae’r clogwyni’n drawiadol ar y darn hwn o’r arfordir, ym mhen dwyreiniol Skrinkle Haven chwiliwch am Ddrysau’r Eglwys, arch fawr o garreg galch rhwng y Porthladd a’r cildraeth caregog.

Gorwedd Skrinkle Haven ar y ffin rhwng yr Hen Dywodfaen Coch a’r Garreg Galch Carbonifferaidd. Mae Libby Taylor, Rheolwr Parcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cerdded y daith hon ac mae’n dweud: “Taith hyfryd i weld blodau gwyllt a phili-palaod yn y gwanwyn. Mae yna forlin garw gyda chwythdyllau, bwâu, ogofau ac, ym Mhen Lydstep (sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol), y cyfle i weld merlod yn pori fel rhan o gynllun cadwraeth ar y cyd rhwng Awdurdod y Parc a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.”

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SS085982

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau