Dathlwch Ddiwrnod Rhyngwladol Corws y Wawr gyda thaith gerdded hamddenol dan arweiniad Parcmon y Parc Cenedlaethol a mwynhewch hud rhyfeddol corws gwawr byd natur o amgylch maes awyr Tyddewi. Perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n frwd dros fywyd gwyllt i ddysgu mwy am ganu adar, gwylio adar ac adnabod adar. Wedi hynny (o 7am), byddwn yn mwynhau rhôl frecwast yng Nghaffi Pilgrim’s (wedi’i gynnwys yn y pris*), ac yna bydd cyfle i archwilio ein harddangosfa Geiriau Diflanedig ar eich cyflymder eich hun (o 8am). * Opsiynau llysieuol, fegan a GF ar gael.
Cyfarfod yn Maes Awyr Tyddewi, SA62 6UE (SM 786 257), what3words: washroom.dairies.strike, gweld ar Google Maps.
Addas ar gyfer oedran 16+. Sylwch, rhaid i bobl ifanc 16 a 17 oed fod yng nghwmni oedolyn (18+ oed). Mae’n ddrwg gennym, ni chaniateir cŵn.
£15 y pen. Mae archebu a thalu ymlaen llaw yn hanfodol. I archebu, cliciwch yma.
We welcome your feedback. Please tell us about your experience by filling in our Events Feedback Form.
Rydym yn croesawu eich adborth. Dywedwch wrthym am eich profiad trwy lenwi ein Ffurflen Adborth Digwyddiadau.