I’n helpu ni i wneud y wefan hon yn well, mae’r gosodiadau cwcis wedi eu gosod i 'ganiatáu pob cwci'. Os byddwch yn parhau heb newid y gosodiadau hyn, rydych yn cydsynio i hyn ddigwydd – am ragor o wybodaeth ac i newid hyn ar unrhyw adeg, gweler ein polisi preifatrwydd. Preifatrwydd.   

Hafan » Byw Yn » Blog

Blog

Blog

Bywyd gwyllt ar ddiwedd y gaeaf

Mae’r Swyddog Cadwraeth Julie Garlick yn tynnu sylw at y bywyd gwyllt mae hi wedi ei weld ym mis Chwefror.

Er bod rhywfaint o amser eto i fynd tan y bydd y gwanwyn yma yn swyddogol, mae’r byd naturiol eisoes yn ymateb i’r dyddiau sy’n ymestyn.   Rydym ni rhywle rhwng y gaeaf a’r gwanwyn, amser o’r flwyddyn yr oedd y Celtiaid yn ei nodi gyda gŵyl yr Imbolc ar 2 Chwefror.

Briallu
Briallu.

Yr adeg hon o’r flwyddyn, pan nad ydym yn cael ein difetha gyda golygfeydd gwych yr haf a bywyd gwyllt ysblennydd sy’n cystadlu am ein sylw,  mae’n gwneud i chi werthfawrogi’r pethau llai.  Gallwch chi oedi er mwyn edmygu briallen unigol, haid o gornchwiglod yn chwifio eu hadenydd uwchben ac arogl blodyn yr eithinen Ffrengig.

Mae gennych chi amser i edmygu’r pethau cyffredin yr ydych chi’n eu cymryd yn ganiataol ar adegau eraill o’r flwyddyn – fel nodweddion trawiadol pioden neu gân y robin goch.

Eirlysiau
Eirlysiau.

Mae’r eirlysiau yn awr wedi datblygu llawer erbyn hyn a gellir gweld y briallu cyntaf yma ac acw.  Mae llawer o goed yn dod â blagur newydd ac mae dail clychau’r gog yn ymddangos yn y coedydd.  Mae blodau’r blodyn neidr i’w gweld ar y cloddiau.  Mae grifft llyffant yn ymddangos mewn pyllau (ymddengys ei fod ychydig hwyrach eleni).  Mae cnocellau’r coed eisoes wedi dechrau cnocio eu tiriogaethau yn barod ar gyfer y tymor bridio.   Cigfrain yw un o’r nythwyr cynharaf a gellir eu gweld yn aml yn awr mewn parau ar hyd yr arfordir ac ar y bryniau, yn galw gyda’r ‘clegar’ nodweddiadol.

Raven
Cigfran.

Hyd yn oed yr adeg hon o’r flwyddyn, mae llawer o waith cadwraeth yn parhau i ddigwydd.    Rydym ni yn brysur yn rhoi merlod i bori ar safleoedd bywyd gwyllt sydd angen cael seibiant o bori yn yr haf, fel dolydd gwair.  Hwn hefyd yw’r amser gorau i bori ar safleoedd a all fod yn rhy brysur yn ystod y gwyliau.

Welsh mountain ponies helping to keep coastal habitats open and rich in biodiversity
Merlod mynydd Cymreig yn helpu i gadw cynefinoedd arfordirol yn agored a chyfoethog mewn bioamrywiaeth.

Y gaeaf yw’r amser ar gyfer gwneud ein gwaith rheoli prysgwydd, fel yr eithinen Ffrengig a’r helyg a fydd yn gorgyffwrdd â chynefinoedd glaswelltiroedd os rhoddir cyfle iddyn nhw wneud hynny.  Mae prysgwydd yn gynefin gwerthfawr iawn yn ei rinwedd ei hun, er ein bod bob amser yn sicrhau ein bod yn cadw digon ohono yn y lleoedd cywir.  Telorion Dartford, clochdariaid y cerrig, gwiberod – mae’r cyfan yn dibynnu ar dyfiant prysgwydd er mwyn iddyn nhw ffynnu.

Volunteers clearing blackthorn to restore flower-rich grassland
Gwirfoddolwyr yn clirio’r ddraenen ddu er mwyn adfer glaswelltir sy’n gyfoethog mewn blodau.

Yn ddiweddar, rydym ni wedi bod allan yn edrych ar rhai o’n blychau tylluanod gwyn am arwyddion o weithgaredd.  Rydym yn creu darlun o leoliad y blychau llwyddiannus, yn barod ar gyfer yr arolwg ym mis Mehefin er mwyn gwirio llwyddiant y bridio.

Local ornithologist Paddy Jenks helping to check barn owl boxes with a phone on a stick!
Paddy Jenks, adarwr lleol yn helpu i wirio blychau’r tylluanod gwyn gyda ffôn ar ffon!

Mae ein gwybodaeth ynglŷn â sut mae’r tylluanod hyn yn ffynnu yn Sir Benfro yn eithaf cyfyngedig ar y funud, ond mae cynlluniau i sefydlu safle Facebook newydd ar gyfer pobl i gofnodi eu bod wedi’u gweld.

Barn owl (C) Pembrokeshire Coast National Park Authority
Tylluan Wen.

Cadwch lygad allan am Grŵp Tylluanod Gwyn Sir Benfro a phostiwch yr hyn a welsoch er mwyn ein helpu ni i ddeall mwy ynglŷn â sut y maen nhw’n datblygu!


National Park Nature Diary
A gyhoeddwyd 25/02/2019


blaenorol

 1 to 1 of 1