Tywyn – Goleuadau Nadolig yng Nghastell Caeriw

Dechrau : 17/11/2022 ac yn rhedeg tan : 22/12/2022

Mae Castell Caeriw yn agor ei gatiau am chwe wythnos o ddathliadau rhad ac am ddim yn y cyfnod cyn y Nadolig. ‘Tywyn’ ydi’r profiad goleuadau Nadolig newydd fflam fydd yn agored o Ddydd Iau 17 Tachwedd sy’n cynnig mynediad AM DDIM.

Girl wearing a winter hat looking up towards a series of string lights

Fel mae’n nosi, dilynwch y llwybr goleuadau disglair fydd yn eich arwain i fyny rhodfa’r Castell i ddarganfod yr Ardd â Mur o’i Chwmpas wedi ei haddurno ar gyfer y Nadolig. Bydd yr arddangosfeydd goleuadau cyfareddol a lliwgar, a choeden Nadolig hardd yn creu gardd hudolus ar gyfer y teulu cyfan. Yn ogystal, caiff wyneb Dwyreiniol y Castell ei oleuo’n gynnil i greu effaith trawiadol.

Neidiwch ar feic i roi tro ar gynhyrchu ynni a yrrir gan bedalau, i bweru rhai o’r goleuadau a’r addurniadau yn yr Ardd â Mur o’i Chwmpas. Mae’r holl oleuadau a ddefnyddir trwy gydol tymor y Nadolig yn cynnwys y goleuadau LED sy’n arbed mwyaf o ynni sydd ar y farchnad yn ogystal â goleuadau ynni’r haul.

Mae sicrhau bod Tywyn mor ecogyfeillgar â phosibl wrth galon y digwyddiad ac mae’r arddangosfa gyfan wedi ei chynllunio i ddefnyddio llai o ynni na chwpwl o beiriannau yn y cartref. Mae’r goleuadau’n defnyddio tua 85% yn llai o ynni na goleuadau ffilament traddodiadol a gellid eu rhedeg o un soced gyffredin hyd yn oed!

Gall teuluoedd hefyd gymryd rhan mewn Llwybr Coblynnod AM DDIM o amgylch yr Ardd, sydd ar gael o Siop y Castell. Bydd y Siop ar agor ar gyfer siopa Nadolig tan yn hwyr gyda chasgliad o anrhegion lleol ac unigryw. Bydd Ystafell De Nest yn gweini holl ffefrynnau’r ŵyl o siocled twym ‘After Eight’, i win twym a rholiau bara’n llawn twrci a llugaeron.

Bydd y Nadolig teuluol hudolus yn parhau wrth ichi ddilyn y llwybr golau cannwyll atgofus i mewn i’r Castell i brofi’r Castell fel erioed o’r blaen.*

Ar y penwythnosau (26 Tachwedd-18 Rhagfyr) bydd Siôn Corn yn ei Groto hudolus yn yr Ardd Furiog rhwng 11am-5pm. Codir tâl bychan i gwrdd â Siôn Corn a derbyn rhodd. Rhaid archebu ymlaen llawn. Ewch i’n gwefan archebu i ddarllen y manylion llawn ac i archebu amser i ymweld â’r Groto. 

Mae mynediad i Tywyn AM DDIM bob Dydd Iau-Dydd Sul o 17 Tachwedd-18 Rhagfyr (Iau/Gwener 4.30pm-8pm a phenwythnosau 3pm-8pm). Yn ogystal â Dydd Llun 19-Dydd Iau 22 Rhagfyr 4.30pm-8pm.

Ewch i’n tudalen Cyn i Chi Ymweld am fanylion llawn oriau agor y Castell a’r Ystafell De trwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr.

*Sylwer, ar ôl 3pm, mae mynediad i’r Castell wedi’i gyfyngu i rannau o’r llawr gwaelod yn unig am resymau diogelwch.