Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i'r safle a sut rydyn ni'n gweithredu i sicrhau ein bod ni'n eich cadw chi, ein staff a'n cymuned leol yn ddiogel.
Prisiau mynediad
Oedolyn (17+): £6.50
Plant (4-16): £4.50
Consesiwn (65+ neu fyfyrwyr gyda thocyn fyfyrwyr dilys): £5.50
Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 plentyn): £18.50
Tocyn blynyddol/defnyddiwr cadair olwyn a/neu ofalwr cysylltiedig: Am ddim.
Rydych chi’n gymwys i gael mynediad am ddim os ydych chi:
-
- deiliad Tocyn Blynyddol. Os oes gennych Docyn Blynyddol ar gyfer Castell Caeriw/Castell Henllys, dangoswch eich tocyn fel arfer ar ôl cyrraedd. Os hoffech brynu tocyn Blynyddol ffoniwch ni ar 01646 651 782 cyn i chi archebu. Ar hyn o bryd rydym yn ymestyn y dyddiad dod i ben ar tocynnau tymor 2020 dri mis.
- defnyddiwr cadair olwyn a/neu ofalwr cysylltiedig. Mae’n ofynnol i ofalwyr ddod ag un o’r eitemau dogfennaeth a ganlyn:
- Llythyr Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Llythyr Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Bathodyn Glas (angen ID â llun arno)
- Llythyr wedi’i lofnodi gan Feddyg Teulu (angen ID â llun arno)
- Cerdyn Gofalwr/llythyr gan sefydliad Gofalwyr neu Gyngor Sir.
Beth i’w Ddisgwyl os ydych yn ymweld â Chastell Caeriw
Mae’r Castell ar agor o 10am-4.30pm bob dydd (mynediad olaf am 4pm).
Mae Ystafell De Nest ar agor bob dydd o 10.30am – 4pm.
Mae’r Felin Heli ar agor o 11am-5pm bob dydd (mynediad olaf am 4.30pm).
Mae holl ardaloedd awyr agored y Castell a’i dir ar agor, gan yr Ardd Furiog a’r ardal chwarae.
Gorchuddion wyneb
Croeso i fasgiau.
Er bod hi ddim yn angen cyfreithiol yng Nghymru erbyn hyn, mae croeso i chi wisgo’ch masg os byddwch yn teimlo’n well wrth wneud hyn.
Sgwter Symudedd
Mae gennym sgwter symudedd ar gael i’w logi. Ffoniwch 01646 651 782 i archebu.
Safle cyfeillgar i gŵn
Cadwch gŵn ar dennyn bob amser. Gofynnwch yn y dderbynfa os byddwch chi eisiau bag ci.