Llanrath

Traeth Baner Las, mynediad hwylus. Achubwyr bywyd tymhorol. Ardal â chyfyngiadau cŵn 1 Mai-30 Medi.

Mae Llanrath yn draeth Baner Las ac yn gallu bod yn lle gwych i nofio yn yr haf, i bysgota gyda`r hwyr ac i hwylfyrddio.

Dyma draeth tywodlyd sy’n wynebu’r de ac mae ganddo fanc o gerrig crynion sy’n uwch na llinell y llanw uchel. Mae yma gyfres o rwynau sy’n diogelu’r pentref rhag moroedd tymhestlog.

Os ydych chi’n ymdrochi yma, gwyliwch rhag y grwynau. Pan fydd y llanw’n isel iawn, mae boncyffion a bonion fforest foddedig yn gallu cael eu dinoethi. Mae’r clogwyni ar ochr orllewinol y traeth yn ansefydlog a dylech eu hosgoi.

Mae Llanrath yn nodi dechrau Llwybr Arfordir Sir Benfro (neu’r diwedd os ydych chi’n cerdded o’r cyfeiriad arall). Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn un o Lwybrau Cenedlaethol Pellter Hir ym Mhrydain. O’r fan hon mae yna 186 milltir (300 km) o rai o’r darnau o forlin gorau yn Ewrop. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir y wefan hon i ddarganfod mwy.

 

Cyfleusterau

Dau set o doiledau cyhoeddus. Cyfleusterau i’r anabl a chyfleusterau newid cewynnau yn y toiledau yn y maes parcio ym mhen gorllewinol y traeth yn unig. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor.

Mae yna giosgau ffôn, siopau, caffis a thafarndai ar lan y môr. Mae yna finiau sbwriel y gellir eu defnyddio ar gyfer baw cŵn. A wnewch chi helpu cadw Llanrhath yn hardd a defnyddio’r cyfleusterau a ddarperir neu fynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

 

Cyfeillgar i gŵn?

Mae yna gyfyngiadau ar gŵn ar ran o’r traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi. Ewch i wefan Croeso Sir Benfro i weld y mapiau cyfyngiadau cŵn diweddaraf. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn.

 

Mynediad hwylus?

Llwybr mynediad o’r maes parcio (cyflesterau i’r anabl) i’r siopau a’r traeth trwy bont dros nant, gyda ramp. Swyddogion achub bywyd yn yr haf. Ramp goncrit wrth y toiledau: 1:8 i 1:7 am 45 metr, y sylfaen yn aml wedi’i gorchuddio gyda cherrig crwn mawr.Yng Nghastell Llanrhath (i ffwrdd oddi wrth y siopau a’r toiledau) mae yna fynediad i rhan dywodlyd o’r traeth trwy lithrffordd goncrit: 1:6 i 1:51⁄2 am 44 metr. Rhodfa goncrit ar hyd glan y môr.

Mae yna llwybr sy’n addas i defnyddwyr cadair olwyn yn arwain o’r traeth tua’r tir. Mae llwybr sy’n addas i gadeiriau olwyn yn arwain o’r traeth tua’r tir. Am ragor o wybodaeth gweler y tudalen ‘Llwybrau i Bawb’ daith Amroth i Borthdy Colby.

 

Cyrraedd

Fe allwch gyrraedd Llanrhath ar eich beic, ac mae’r Llwybr Celtaidd yn pasio trwy’r pentref ac yn agos iawn at y traeth. Mae yna reseli i barcio beiciau ar y safle hwn. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro am fanylion Llwybr yr Arfordir a Ffin.

Mae’r traeth yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.

Mae llwybr bws 351 yn stopio yn Llanrath. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Yn y car, mae tair isffordd yn rhedeg i lawr bryniau serth i ymuno â’r heol ar lan y môr yn Llanrath. Mae yna arwyddion oddi ar yr A477. Mae yna le i barcio 60 o geir (taliadau yn berthnasol yn dymhorol) a llefydd parcio pellach ar hyd y morglawdd. Mae yna barcio ar hyd gweddill y gofod glan môr i yrwyr anabl yn unig.

Cyngor ar ddiogelwch

  • Mae yna Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i gael gwybodaeth am ddyddiadau/amserau diweddaraf.
  • Mae’r cerhyntau’n gallu bod yn anodd eu darogan, yn enwedig pan fydd y llanw’n isel.
  • Fel arfer, mae’n fwy diogel ymdrochi pan fydd y llanw’n uchel, ond os oes baner goch yn chwifio mae’n beryglus i ymdrochi.
  • Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
  • Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
  • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).

 

Is-ddeddfau

Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.

Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.

Dod o hyd i'r traeth hwn

Cyfeirnod Grid: SM832325. Côd post: SA67 8NF