Llanrath

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.0 milltir (4.9 km) 1 awr 30 munud

CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrath 350/351

CYMERIAD: Caeau a da byw, llwybrau ceffylau, glan môr. Mae’n cynnwys 410 m o gerdded ar isffyrdd

CHWILIWCH AM: Eglwys Llanrath• cymoedd coediog • stormdraeth.

Mae traeth tywod a cherrig mân Llanrath yn enwog am y goedwig a foddwyd o dan y dŵr – pan fydd y llanw’n isel iawn, fe allwch chi weld boncyffion y coed yn gwthio allan drwy’r tywod ac mae cyrn a chnau wedi eu ffosileiddio, esgyrn anifeiliaid a fflintiau Neolithig wedi eu darganfod yma.

Mae Llanrath ei hun yn bentref bach dymunol ac mae’r traeth yn wych yn yr haf.

Yn y gaeaf gofalwch rhag y stormydd deheuol sy’n gallu taro’r traeth, gan godi’r clawdd o gerrig mân wrth gefn y traeth a’i daflu ar draws yr heol sy’n rhedeg hyd y bae.

Ar un adeg, roedd yna res o fythynnod wrth ymyl yr heol ond cawsant eu golchi i ffwrdd gan stormydd trwm iawn yn y 1930au. Rhoddwyd eglwys Llanrath i Farchogion Sant Ioan ym 1150.

Gerllaw, mae gan Gerddi Coetir Colby un o’r casgliadau gorau o rododendrons ac asaleas yng Nghymru gyda chlychau’r gog a chennin Pedr yn y gwanwyn, blodau’r enfys (hydrangeas) yn yr haf a lliwiau godidog yn y gwanwyn.

Mae’r Gerddi Coetir, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar agor o Ebrill i Dachwedd.

Mae Libby Taylor, Rheolwr Gwasanaeth Parcmyn y Parc gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Fe all cerddwyr weld y goedwig danddwr pan fydd y llanw’n isel ar y traeth ac fe allan nhw archwilio’r cymoedd coediog prydferth uwchben y pentref. Mae’r daith yn mynd heibio eglwys brydferth Llanrath.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN166072

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau