Oriel Ysgol Gynradd St Monica

Yn Nhymor yr Hydref 2021, gweithiodd Ffotogallery gyda phlant Ysgol Gynradd St Monica yn Cathays, Caerdydd, i ymchwilio effeithiau llygredd ar ein traethau lleol yn Ne Cymru.

Cafodd y prosiect ei ysbrydoli gan waith yr artist Mike Perry, ei arddangosfa Tir/Môr, ac yn arbennig ei gorff o waith, Môr Plastig, lle cymerodd agwedd ffotograffig fforensig tuag at ddogfennu’r llygredd plastig a olchodd i fyny ar hyd arfordir Sir Benfro.

Dilynodd y plant yr un broses â Perry: aethant ar drip i draeth Y Bari i chwilio am sbwriel ar y traeth, a dod â’r sbwriel hwnnw yn ôl i’r ysgol. Yna aethon nhw ati’n ofalus i olchi a pharatoi’r darnau hynny o sbwriel ac yna ddefnyddio camera ar stand copi i ail greu golygfa wrthrychol Perry gyda lluniau niwtral, gwastad.

Roedd y prosiect nid yn unig yn darparu profiadau a dysgu newydd am dechnegau ffotograffig ond roedd hefyd yn gwneud i’r plant ystyried effeithiau llygredd ar ein traethau lleol a’n harfordiroedd yng Nghymru, y mae rhai ohonynt yn fyd-enwog am eu harddwch a’u ‘glendid’.

Yn anffodus, hyd yn oed yn y fan hyn fe welwn effeithiau niweidiol pobl ar natur, ond gobeithiwn y gall y plant fod yn rhan o’r genhedlaeth sy’n gwyrdroi’r achosion hyn ac, o edrych ar y sylwadau hyn gan y plant, mae hynny’n bosibl iawn:

“Yn fy marn i, os na fyddem wedi casglu’r sbwriel o’r traethau, byddai’r sbwriel wedi golchi i ffwrdd yn y dŵr a byddai anifeiliaid eisiau ei fwyta, sy’n beth drwg iawn.”
“Gallaf stopio defnyddio poteli plastig a stwff arall sy’n blastig neu, os byddaf yn ei ddefnyddio, gallwn ei ail ddefnyddio.”
“Gallwn geisio darbwyllo ein rhieni i yrru llai ac ailgylchu mwy,”
“Gostwng y gwastraff a gynhyrchwn.”

Y lluniau nesaf yw cynnyrch y prosiect hwn, a grewyd gan blant Ysgol Gynradd St Monica’s, Cathays, Caerdydd.