Partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro yma i helpu wrth i ddisgyblion ac athrawon ddechrau dychwelyd yn raddol

Cyhoeddwyd : 17/06/2020

Wrth i athrawon a disgyblion baratoi i ddychwelyd yn raddol i’r ysgolion, mae Partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro’n amlygu manteision dysgu yn yr awyr agored i lesiant a’r rôl allweddol y gallai chwarae ynddo.

Mae Partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro’n bwriadu helpu ysgolion i ddarparu profiadau dysgu diogel sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, gan gynnig addysg werthfawr, ddiddorol ac ysbrydoledig ar dir ysgol ac yn yr ardaloedd lleol.

Mae’r bartneriaeth, sy’n cael ei chydlynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn rhwydwaith deinamig o sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr yr awdurdod lleol sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau ac arbenigedd mewn dysgu yn yr awyr agored.

Pembrokeshire Outdoor Schools Logo

Dywedodd Bryony Rees, Cydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, “Mae’r bartneriaeth yn barod i gefnogi ac annog dysgu plant ar draws Sir Benfro yn yr awyr agored, gyda’r grwpiau a’r sefydliadau sy’n rhan ohoni’n gallu helpu ysgolion i ddarparu gweithgareddau gwych i ddisgyblion.

 

“Mae dysgu yn yr awyr agored yn gyfle gwych i gadw pellter cymdeithasol a lleihau trosglwyddo clefydau. Mae bod yn yr awyr agored hefyd yn fuddiol i lesiant disgyblion a staff. Mae dysgu yn yr awyr agored wedi bod yn rhan boblogaidd o addysgu gartref ac mae ganddo rôl bwysig i’w chwarae wrth i ysgolion symud at gyfuno addysgu yn yr ysgol a gartref.

“Bydd y mannau awyr agored o gwmpas yr ysgol ac yn yr ardal leol yn bwysig iawn ar gyfer llesiant plant oherwydd bydd dysgwyr yn gallu osgoi’r angen i ddefnyddio trafnidiaeth fel bysiau, a allai achosi problemau o ran cadw pellter cymdeithasol.

 

Mae arweiniad diweddar Llywodraeth Cymru i ysgolion wedi pwysleisio gwerth dysgu yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod o ddychwelyd yn raddol. Roedd hefyd yn amlygu manteision corfforol, meddyliol ac addysgol cynnal dosbarthiadau yn yr awyr agored.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, cysylltwch â Bryony Rees drwy anfon e-bost bryonyr@pembrokeshirecoast.org.uk, ffonio 07870 488014 neu drwy fynd i www.pembrokeshireoutdoorschools.co.uk.

Darganfyddwch fwy am y Parc Cenedlaethol