Cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu

Cyhoeddwyd : 17/09/2021

Eich hawl i aiarad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Rheoli Datblygu ar 01646 624800.

Fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, mae’r Awdurdod hwn wedi mabwysiadu polisi o ganiatáu i aelodau’r cyhoedd annerch y Pwyllgor Rheoli Datblygu pan fydd ceisiadau cynllunio yn cael eu penderfynu.

 

Yr hawl i siarad

Mae’r hawl i annerch y Pwyllgor ar gael ym mhob cyfarfod  o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ac mae’n ymestyn i:

 

Aelod lleol yr ardal o’r Cyngor Sir;

  • Cynrychiolydd Cyngor Cymuned/Tref/Dinas yr ardal lle mae’r safle;
  • Unrhyw ymgynghorai statudol;
  • Yr ymgeisydd NEU asiant yr ymgeisydd;
  • Cefnogwr y cynnig;
  • Gwrthwynebydd y cynnig.
  • (Ym mhob un o’r categorïau uchod lle mae un neu fwy nag un person yn dymuno siarad, bydd angen enwebu un person i siarad ar ran pob un ohonynt; os na ellir dod i gytundeb ar hyn, bydd y person cyntaf a gofrestrodd yn cael caniatâd i siarad).

Noder os gwelwch yn dda nad yw’r hawl i siarad yn berthnasol i Ymweliadau Safle gan y pwyllgor.

 

Hysbysu

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno siarad roi gwybod i’r uned Cymorth Gweinyddol, Rheoli Datblygu, yn y cyfeiriad ar ochr arall y dudalen, drwy’r e-bost neu yn ysgrifenedig (mae ffurflen wedi’i amgáu er hwylustod i chi) erbyn 10a.m. ar y bore Gwener cyn y Cyfarfod Pwyllgor ar y dydd Mercher canlynol.

Dylai pob cais i siarad nodi’n glir y cais dan sylw a nodi enw’r person sy’n dymuno siarad. Hefyd dylid cynnwys crynodeb o’r pwyntiau sydd i’w codi. Dylai’r pwyntiau hyn fod yn seiliedig ar faterion a godwyd yn y sylwadau gwreiddiol a bod yn faterion cynllunio perthnasol.

Mae’r rhain yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol perthnasol
  • Golwg a chymeriad y datblygiad, y cynllun a’r dwysedd
  • Y traffig fydd yn deillio o’r datblygiad, diogelwch y priffyrdd a pharcio/gwasanaethu
  • Y datblygiad yn cysgodi eiddo arall, yn edrych dros eiddo arall, y sŵn o’r datblygiad yn tarfu, arogleuon o’r datblygiad neu amwynder arall a gollir.

Dylai siaradwyr osgoi cyfeirio at faterion y tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor Rheoli Datblygu, megis;

  • Anghydfod ynghylch ffiniau, cyfamodau a hawliau eraill sy’n ymwneud ag eiddo
  • Sylwadau personol (megis cymhelliant, camau gweithredu hyd yn hyn, ymddygiad yr Awdurdod)
  • Hawliau i weld eiddo neu ddibrisio eiddo.

Mae croeso i chi annerch y Pwyllgor yn Gymraeg neu yn Saesneg.  Dylai’r rhybudd ymlaen llaw nodi pa iaith yr ydych am ei defnyddio wrth annerch y Pwyllgor. Mae’r Awdurdod yn annog defnyddio’r Gymraeg ac yn hapus i hwyluso unrhyw gais i annerch y Pwyllgor yn Gymraeg.

Gan y bydd nifer o eitemau ar yr agenda, ni allwn ddweud wrthych pa bryd yn union y bydd y cais y mae diddordeb gennych ynddo yn dod gerbron y Pwyllgor. Mewn achosion lle nad yw’r cyfarfod yn un rhithiol, dylech gyflwyno’ch hun yn y Dderbynfa hanner awr cyn dechrau’r cyfarfod i gael brîff ar yr Agenda. Ar gyfer cyfarfodydd rhithiol, cynhelir cyfarfod y diwrnod cynt i brofi mynediad.

 

Cyffredinol

Ni fydd penderfyniad ar gais yn cael ei ohirio oherwydd nad yw unigolyn sydd wedi nodi ei fod yn dymuno siarad yn barod i wneud hynny pan gyhoeddir y cais neu os na all ddod i’r cyfarfod.

Mewn achos cais i rannu’r amser a neilltuir ar gyfer siarad cyhoeddus, gellir cytuno i hyn yn ôl ewyllys y Cadeirydd.

Mewn achos o anghytundeb, mae dyfarniad y Cadeirydd yn derfynol.

 

Gweithdrefn yn y Cyfarfod

  1. Caniateir i unigolyn siarad am 5 munud ar y mwyaf yn y cyfarfod cyntaf y daw cais gerbron y Pwyllgor ac am 3 munud mewn unrhyw gyfarfod dilynol, cyn belled â bod y cyflwyniad dilynol yn cynnwys gwybodaeth newydd.
  2. Dim ond y bobl hynny sydd wedi rhoi rhybudd ymlaen llaw fydd â hawl i siarad. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr.
  3. Bydd y Cadeirydd yn galw ar y rhai a wahoddir i siarad pan gyrhaeddir y rhan berthnasol o’r agenda.
  4. Anogir y rhai sy’n siarad i siarad mor gryno â phosibl, heb ailadrodd pwyntiau sydd eisoes yn hysbys i Aelodau’r Pwyllgor a heb gymryd mwy o amser na’r hyn a neilltuwyd iddynt gan y Cadeirydd. Mae’n bwysig cyfyngu’r drafodaeth i faterion cynllunio. Mae er budd pawb i gyflwyno barn yn gwrtais a gyda pharch priodol i farn pobl eraill.
  5. Y weithdrefn yng nghyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu fydd fel a ganlyn (yn amodol ar ddisgresiwn y Cadeirydd):
  • Y Cadeirydd yn cyhoeddi’r cais
  • Y Swyddog Cynllunio yn disgrifio’r cais, y materion i’w hystyried ac yn gwneud argymhelliad gyda delweddau o’r safle a chynlluniau yn ôl yr angen

Bydd sylwadau yn cael eu clywed fel arfer yn y drefn ganlynol:

  1. Yr Aelod Lleol o’r Cyngor Sir
  2. Cynrychiolydd y Cyngor Cymuned/Tref/Dinas
  3. Ymgynghorai statudol
  4. Cefnogwr
  5. Gwrthwynebydd
  6. Yr ymgeisydd neu Asiant
  • Gall yr Aelodau, drwy’r Cadeirydd, ofyn am eglurhad ar unrhyw bwyntiau a godir ar ôl pob un o’r sylwadau, yn ôl yr angen.
  • Y Swyddog Cynllunio yn gwneud sylwadau ac argymhelliad terfynol
  • Cynnal trafodaeth drwy’r Cadeirydd, a’r Pwyllgor y dod i benderfyniad (bydd y swyddogion yn ymateb i bwyntiau yn ôl yr angen)

Cysylltu â’r Awdurdod

I roi gwybod i’r Awdurdod eich bod yn dymuno siarad am gais cynllunio, cysylltwch â’r uned Cymorth Gweinyddol, Rheoli Datblygu, yn ysgrifenedig at:

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY

Drwy e- bostio dc@pembrokeshirecoast.org.uk

NODER: Dylai siaradwyr gofio nad oes ganddynt unrhyw amddiffyniad arbennig wrth wneud eu cyflwyniadau i’r Pwyllgor rhag y deddfau sy’n ymwneud ag athrod, enllib neu ddifenwi.

 

Dolenni a lawrlythiadau perthnasol