Abermawr

Cyfeillgar i gŵn

Bae mawr, diarffordd, gyda banc trawiadol o gerrig crynion, uwchlaw' traeth.

Mae Abermawr yn lle gwych i ddianc rhag y tyrfaoedd ac mae’n lle rhagorol i wylio bywyd gwyllt. Defnyddir y bae yn rheolaidd gan forloi ac mae’n fan da iawn i weld yr hebog tramor ar batrôl ar hyd y clogwyni.

Datgelir y tywod wrth i’r llanw fynd allan. Pan fydd y llanw’n isel iawn gellir gweld boncyffion coedwig foddedig hefyd.

Byddwch yn ofalus os fyddwch chi’n nofio yma, oherwydd mae yna gerhyntau annisgwyl mewn mannau.

Mae yna deithiau cerdded rhagorol ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro, gyda golygfeydd gwefreiddiol i’r naill ochr a’r llall i Abermawr.

Roedd y Cwt Ceblau gerllaw, sydd bellach yn annedd preifat, yn gartref i un pen o’r llinell delegraff danfor gyntaf rhwng Prydain ac America, a osodwyd ym 1873.

Cyfleusterau

Dim cyflesterau. Toiledau cyhoeddus agosaf yn Abercastell. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor.

Caffi ym Melin Tregwynt, llai na milltir i ffwrdd. Mae ‘na gaffi a thafarn yn gweini bwyd ym mhentref Mathri, tua 3.5 milltir i ffwrdd.

Nid oes unrhyw finiau sbwriel na baw cŵn, felly a wnewch chi gadw Abermawr yn hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

Cyfeillgar i gŵn?

Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn. Nid oes unrhyw finiau sbwriel na baw cŵn, felly a wnewch chi gadw Abermawr yn hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

 

Mynediad hwylus?

Na. Mae mynediad i’r traeth trwy lwybr glaswelltog eithaf serth.

 

Cwrdd â’r safle

Fe allwch ddod i Abermawr ar eich beic, ac mae’r Llwybr Celtaidd yn pasio o fewn hanner milltir. Mae’n werth crwydro oddi ar y llwybr i ddod yma! Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.

Mae Bws Arfordirol y Gwibiwr Strwmbl yn stopio llai na milltir i ffwrdd ym Melin Tregwynt. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Mae’r traeth yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.

Os yn teithio yn y car, mae yna arwyddion da i Abermawr oddi ar heol Tyddewi-Abergwaun (yr A487), tua 3.5 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Fathri. Mae yna lefydd parcio cyfyngedig iawn ar ochr yr heol ar ymyl yr heol uwchlaw’ traeth.

Cyngor ar ddiogelwch

    • Byddwch yn ofalus ar y llwybr sy’n arwain at y traeth. Mae’n gallu bod yn llithrig pan fydd yn wlyb ac mae’n erydu mewn mannau.
    • Dim achubwyr bywyd ar y traeth hwn. Please Ewch i wefan y RNLI i ddod o hyd i’r traeth agosaf sydd ag achubwyr bywyd.
    • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).

 

Is-ddeddfau

  • Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
  • Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.