Coed Aber Mawr

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.1 milltir (3.4 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cymoedd coediog, stormdraeth, caeau a da byw, fe all fod yn wlyb ac yn fwdlyd mewn mannau, cerdded ar isffyrdd am 0.3 milltir (500 m)
CHWILIWCH AM: Safle rheilffordd Brunel a adawyd heb ei orffen • chwarelau bach wedi eu gorchuddio gan redyn • adar coetir • clychau’r gog ym mis Mai / Mehefin

MWY O WYBODAETH: Parcio wrth ochr y ffordd: tua 10 lle parcio, peidiwch â rhwystro’r lle troi

Yn hwyr yn y gwanwyn, mae clychau’r gog gwyllt yn rhoi gwawr o liw i’r coetir uwchben Aber Mawr. Mae’r planhigion yn ffynnu ar lawr y coetir o dan y deri, y cyll a’r onn sy’n fwrlwm o ganeuon yr adar yn ystod misoedd yr haf.

Cyn i lefel y môr godi 10,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd coetir yn ymestyn ymhell i’r gogledd o’r morlin sydd gennym ar hyn o bryd. Weithiau, pan fydd y llanw’n isel iawn fe allwch weld boncyffion y coedwig goll wedi eu ffosileiddio yn Aber Mawr.

Efallai bod yna rhyw fath o gysylltiad rhwng olion y goedwig goll a chwedl Cantre’r Gwaelod. Mae’r stori a adroddir yn aml yn sôn am Fae Aberteifi fel tir a oedd unwaith yn boblog ac yn ffrwythlon iawn ac yn dweud ei fod wedi’i foddi miloedd o flynyddoedd yn ôl.

Fe ddaeth storm arw 1859 â’i storïau ei hun. Weithiau, dywedir mai’r storm yma a bentyrrodd y clawdd o raean bras sy’n gefndir i draeth Aber Mawr, ond mewn gwirionedd, ffurfiwyd y clawdd mewn ffordd llawer llai dramatig. Gadawyd y graean bras wrth i lefelau’r môr godi ar ddiwedd Oes yr Iâ.

Ond, fe adawodd y storm ei marc. Collwyd rhyw 100 o longau ac fe aeth un llong, y Charles Holmes, i drafferthion ac fe’i collwyd ynghyd â phob un o’r criw, yn agos at Aber Mawr.

Mae’r cildraeth yn dawel, ond fe fu’n brysur ar adegau. Daeth Aber Mawr at sylw’r peiriannydd pwysig o oes Fictoria, Isambard Kingdom Brunel, pan yr oedd yn chwilio am derfyna bosib i reilffordd newydd, er mwyn i deithwyr fyrddio llongau i Iwerddon.

Gosodwyd peth o’r trac yn y 1850au a gwnaethpwyd y paratoadau ar gyfer glanfeydd y naill ochr i’r cildraeth. Ond, daeth y prosiect i stop yn fuan wedi i’r gwaith ddechrau.

Mae Ian Meopham, Parcmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn dweud: Dyma ran fywiog iawn o’r arfordir ble mae’r tir yn cael ei erydu gan y môr, o bosib ar gyfradd o hanner metr y flwyddyn. Os edrychwch chi’n ofalus, fe welwch chi olion hen heol yr arfordir.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM885349

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau