Traeth Poppit

Teithiau Cadair Olwyn

Llwybr Traeth (Cadair Olwyn)

PELLTER: Llwybr traeth: 80m.
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Traeth Poppit 407, Poppit Rocket (tymhorol) – dim un ohonynt yn hygyrch i gadair olwyn
CYMERIAD: Llwybr traeth: Llwybr estyllod pren i’r pegwn (gwastad).

Parciwch ym maes parcio’r Parc Cenedlaethol ger y traeth (ffi yn ystod y tymor).

Gadewch y maes parcio drwy allanfa’r cerddwyr. Croeswch yr heol tuag at orsaf y bad achub gyda’i siop a’i doiled cyhoeddus gerllaw.

Mae’r mynediad i’r traeth ar hyd llwybr estyllod pren. Mae’r tywod ar frig y traeth yn sych ac yn rhydd – bydd angen cymorth arnoch i’w groesi.

Yn is i lawr mae’r tywod yn galed a bron yn wastad, ond mae’r llanw yn dod i mewn yn gyflym iawn. Cadair Olwyn 80 metr.

Llwybr Cors (Taith Antur Cadair Olwyn)

PELLTER: 380m.
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Traeth Poppit 407, Poppit Rocket (tymhorol) – dim un ohonynt yn hygyrch i gadair olwyn
CYMERIAD: Arwyneb cerrig wedi’u cywasgu, llethrau hir graddo.

Mae’r llwybr yn dechrau yn agos iawn i fynedfa’r maes parcio ar hyd isffordd (84 metr ar hyd heol wastad).

Edrychwch allan am fynegbost pren wrth ochr y ffordd gyda giât bren sy’n hygyrch i gadeiriau olwynion.

Arwyneb cerrig wedi’u cywasgu ar hyd sarn ar draws cors at ffrwd am 170 metr ac yna’n parhau ar hyd ochr y ffrwd trwy goetir am 210 metr bellach i wersyll carafanau.

Llethrau hir graddol- heb fod yn addas i gadeiriau olwyn â llaw.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SN152485

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau