Monk Haven/Sant Ishmael

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.2 milltir (3.6 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Sant Ishmaels 315/316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Caeau a da byw, arfordir garw, ymyl clogwyn
CHWILIWCH AM: Cwm coediog • pyllau • Eglwys.

Cwm coediog hardd yn arwain at gildraeth diarffordd Monk Haven.

Chwiliwch am amffibiaid fel brogaod, llyffantod a madfallod dŵr ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn a phryfed fel malwod pwll, corynod dŵr a hirheglynnod y dŵr yn y pwll.

Fe fydd gweision y neidr a mursennod yn hela wrth ymyl y dŵr, yn ogystal â llawer o adar, fel y crëyr a mamaliaid bach fel llygod y dŵr.

Mae planhigion y pwll yn cynnwys plu’r parot sydd â dail fel plu sy’n rhoi gorchuddiad dwys dros ymylon y pwll; Siani lusg euraidd, planhigyn bytholwyrdd gyda dail crwn sgleiniog melyn euraidd; a’r lili ddŵr sy’n hoff o olau’r haul a phridd cyfoethog.

Mae mintys y dŵr, glas y gors, gellysg, llafnlys mawr, blodau’r brain a melyn y gors yn gyffredin ar ymylon y pyllau.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM825065

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau