Teithiwch yn ôl mewn amser ar gyfer Penwythnos o Arfau a Rhyfela Caeriw

Posted On : 18/08/2023

Bydd ymwelwyr â Chastell Caeriw yn cael gwledd dros yr Ŵyl Banc wrth i’r cadarnle eiconig gael ei gludo’n ôl i’r Oesoedd Canol ar gyfer Penwythnos o Arfau a Rhyfela.

Mae’r digwyddiad tridiau o hyd am ddim gyda ffi mynediad arferol y Castell. Mae’r atyniad yn cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a bydd y digwyddiad ei hun yn cael ei gynnal gan Historia Normannis – grŵp hanes byw o’r 12fed ganrif sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ddod yn agos at fywydau ein cyndeidiau o’r Oesoedd Canol, o farchogion, dinasyddion a chrefftwyr i ferched y llys a barwniaid.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Historia Normannis i Gaeriw dros Wyliau’r Banc. Bydd y Penwythnos o Arfau a Rhyfela yn wers hanes fythgofiadwy ac yn gyfle i ymwelwyr gael profiad o amodau byw byddin o’r 12fed ganrif.

“Bydd y penwythnos llawn cyffro hwn yn cynnwys gwersyll Canoloesol sy’n arddangos sgiliau traddodiadol, yn ogystal ag arddangosfeydd ymladd ac arfau anhygoel, y cyfle i drin arteffactau replica a rhoi cynnig ar eich sgiliau rhyfela eich hun drwy roi cynnig ar Saethyddiaeth. Sylwer y codir tâl bach am rai o’r gweithgareddau.”

Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Sioe Ffasiwn Ganoloesol am 11am bob dydd, ynghyd â sesiwn Llys y Sir am 1.30pm, a fydd yn tynnu sylw at orfodi cyfreithiau Canoloesol caled a llym.

Bydd Penwythnos o Arfau a Rhyfela Caeriw yn cael ei gynnal rhwng dydd Sadwrn 26 Awst a dydd Llun 28 Awst rhwng 10am a 4pm bob dydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw.

Mae rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yma www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Two costumed knights engaged in a sword fight