Rhoddion ariannol yn ystod Diwrnod Archaeoleg Parc Cenedlaethol yn talu am gyfarpar i wirfoddolwyr treftadaeth

Cyhoeddwyd : 21/05/2021

Defnyddiwyd rhoddion ariannol gan rai a fynychodd Ddiwrnod Archaeoleg Rhithiol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 i dalu am wisgoedd a chyfarpar i helpu gwirfoddolwyr treftadaeth i fonitro henebion.

Er bod y digwyddiad am ddim, gwahoddwyd pobl i wneud rhodd ariannol i Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd wedi defnyddio’r arian a godwyd i dalu am wisgoedd i’r tîm o wirfoddolwyr treftadaeth.

Recriwtiwyd y tîm o 16 o wirfoddolwyr gan Awdurdod Y Parc Cenedlaethol yn 2020 i helpu i arolygu henebion yn y Parc Cenedlaethol ac adnabod unrhyw broblemau er mwyn gallu rhoi sylw iddynt.

Meddai Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tomos Jones:

“Digwyddiad rhoddion yn unig oedd Diwrnod Archaeoleg 2020 ond mae’n wych gweld y cyfraniadau a wnaed gan bobl sy’n teimlo’n gryf am dreftadaeth gyfoethog y Parc yn mynd i helpu i dalu am waith i ddiogelu nodweddion archaeolegol.

“Mae staff yr Awdurdod yn monitro safleoedd gymaint â phosib, ond gyda bron i 300 o henebion yn y Parc, mae angen pob help posib arnom i sicrhau bod unrhyw broblemau’n cael eu hadnabod cyn gynted â phosib.

“Mae tua hanner yr henebion yn y Parc Cenedlaethol yn cael ymweliad fel rhan o’r cynllun ac mae’r cyfraniad hwn yn golygu bod y Parc mewn sefyllfa gryfach i ddiogelu’r henebion cenedlaethol bwysig hyn.”

Cafodd Diwrnod Archaeoleg 2020, a drefnwyd ar y cyd â PLANED, ei wylio’n fyw gan rhwng 160-190 o bobl ac mae’r cyflwyniadau’n dal i fod ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube y Diwrnod Archaeoleg, gyda dros 4,500 wedi gwylio hyd yma.

Person in bobble hat sitting on the grass looking out to see on a sunny day

Elusen yw Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n gweithio’n galed i ddiogelu popeth sy’n unigryw ac arbennig am dirlun y Parc ar gyfer mwynhad cenedlaethau’r dyfodol, i gefnogi cadwraeth, cymuned a threftadaeth ddiwylliannol, gan arwain y ffordd yn eu gwarchod.

I ddysgu mwy am archaeoleg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i’n tudalen Archaeoleg.

I ddysgu mwy am Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

I weld ymweliad Diwrnod Archaeoleg 2020 ewch i sianel YouTube y Diwrnod Archaeoleg.