Rhannwch eich lluniau o Arfordir Penfro i gael cyfle i ennill gwobrau gwych

Cyhoeddwyd : 09/06/2022

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn golygu pethau gwahanol i wahanol bobl; cartref, gwaith neu hoff le gwyliau i lawer dros y 70 mlynedd diwethaf. Nawr, gallwch ennill gwobrau gwych drwy rannu eich hoff luniau o’r dirwedd arbennig hon.

Gyda’r Parc Cenedlaethol yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 eleni, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro angen eich help chi i ddatblygu oriel luniau ar-lein yn cynnwys lluniau sy’n dangos sut mae’r ardal wedi newid ers iddi gael ei dynodi’n Barc Cenedlaethol yn 1952.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol:

“Bydd gan lawer ohonom atgofion melys o’r amser rydyn ni wedi’i dreulio ar Arfordir Penfro, o ymweliadau i’r traeth yn blant i luniau o bobl yn gweithio yn yr ardal.

“Er ein bod yn gobeithio cael digon o luniau o’r blynyddoedd cynnar ar ôl i’r Parc Cenedlaethol gael ei ddynodi, mae croeso i bobl gyflwyno unrhyw luniau o unrhyw flwyddyn, o dirweddau trawiadol i’r rheini sy’n dangos sut mae lleoliadau wedi newid dros amser, gan gynnwys effaith newid yn yr hinsawdd.”

Yn ogystal â chael eu cynnwys mewn oriel ar-lein, bydd y lluniau’n cael eu defnyddio i helpu pobl eraill i ddysgu am y Parc Cenedlaethol mewn digwyddiadau ledled y sir, gan gynnwys sgyrsiau gan Barcmyn Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Bydd pawb sy’n cyflwyno llun i’r gystadleuaeth yn cael eu cynnwys mewn raffl, gyda’r gwobrau’n cynnwys pecynnau dydd a hetiau gan y cwmni Columbia, yn ogystal â phosteri retro o reilffyrdd.

Daw’r gystadleuaeth i ben hanner nos, dydd Gwener 31 Medi 2022. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap a byddant yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2022.

I lwytho eich lluniau i fyny a gweld yr holl delerau ac amodau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/ffoto70.