Plant yn edrych ymlaen at feddiannu Castell Caeriw eto’r haf hwn

Posted On : 17/07/2023

Mae Castell Caeriw yn paratoi ar gyfer y llu o ymwelwyr ifanc maen nhw’n eu disgwyl y mis hwn pan fydd digwyddiad Plant yn Rheoli'r Castell yn dychwelyd i’r lleoliad hyfryd a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro am yr ail flwyddyn.

Mae’n ddiwrnod sy’n addo hwyl ac adloniant i bob oed. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys anwesu anifeiliaid, crwydro gydag alpacas Sweet Home Alpacas, chwythu swigod enfawr a sesiynau rhoi cynnig ar grochenwaith, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau ac anturiaethau eraill o gwmpas tir y Castell.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod yw sesiwn Hanesion Atgas, lle bydd ymwelwyr yn cael eu diddanu gan fanylion erchyll am fywyd Castell sydd fel arfer yn cael eu dileu o wersi hanes.

Gall darpar farchogion edrych ymlaen at gofrestru yn Ysgol Marchogion i ddysgu’r sgiliau a’r cwrteisi sydd eu hangen ar gyfer eu rôl newydd. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan yn y grefft hynafol o saethyddiaeth yn ystod y digwyddiad.

Bydd rhagor o adloniant yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng dewin adrodd straeon a gweithdy cerddoriaeth sy’n cael ei gynnal gan Tickle Tunes.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ein hanturwyr ifanc (a’u hoedolion!) yn ôl i ddigwyddiad Plant yn Rheoli’r Castell, lle gallan nhw ymgolli mewn diwrnod llawn o weithgareddau canoloesol mewn lleoliad trawiadol.”

“Mae’r digwyddiad yn ffordd wych o danio dychymyg pobl ifanc ac ysbrydoli gwerthfawrogiad gydol oes o hanes – yn ogystal â chael llawer o hwyl. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw. Dewch draw ar y diwrnod a dewis y gweithgareddau sydd at eich dant chi.”

Bydd Ystafell De Nest ar agor rhwng 10.30am a 4pm ar y diwrnod, gan weini amrywiaeth flasus o brydau ar gyfer cinio, cacennau a lluniaeth.

Bydd Plant yn Rheoli’r Castell yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf. Pris mynediad arferol – bydd angen arian parod i dalu ffi fechan am gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau. Bydd mynediad am ddim yn cael ei ddarparu i blant o dan bedair oed. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.castellcaeriw.com.

I gael gwybod am ddigwyddiadau eraill ledled y Parc Cenedlaethol yr haf hwn, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

A bilingual poster for the event, featuring a child in armour with a sword and a shield