Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Prosiect Dehongli Archaeoleg

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (YPCAP), wedi cael cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Sackler i ddatblygu cynnwys dehongli ar gyfer tair heneb gofrestredig yn y parc cenedlaethol.

1. Cefndir y Briff

Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu a chynhyrchu cynnwys, disgwylir y bydd ymgysylltu â chymunedau lleol i benderfynu’n union beth fyddent yn hoffi ei weld yn cael ei gynnwys yn y cynhyrchiad. Fel rhan o’r broses ymgysylltu hon, disgwylir y bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal i gyflwyno’r cynnwys i’r cymunedau hyn ac i’r cyhoedd yn ehangach a bydd adborth o’r digwyddiadau hyn yn sail i’r cynnwys terfynol a gynhyrchir.

Fel rhan o waith y briff hwn, bydd disgwyl i’r contractwr gydweithio â staff perthnasol awdurdod y parc cenedlaethol a hefyd ag arbenigwyr allanol eraill i helpu i ddatblygu cynnwys a chreu cysylltiadau â’r cymunedau lleol perthnasol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei reoli gan Archaeolegydd Cymunedol APCAP a nhw fydd prif gyswllt a rheolwr y gwaith hwn ar ran APCAP ac YPCAP.

Gallwch ddarllen y briff llawn isod neu lawrlwytho’r briff llawn ar ffurf PDF. Gallwch hefyd lawrlwytho Ffurflen Ymateb i’r Cais ar wahân.

2. Yr Henebion Cofrestredig a gynhwysir yn y gwaith hwn

Aerial map showing location of the three scheduled monuments in the Pembrokeshire Coast National Park (indicated by red, green and blue diamonds).

Ffigur 1: Map o’r awyr yn dangos lleoliad y tair heneb gofrestredig (gyda diemwntau coch, gwyrdd a glas).

Bydd y gwaith o ddatblygu a chynhyrchu cynnwys dehongli yn canolbwyntio ar Gylch Cerrig Gors Fawr (sy’n cael ei ddangos gan y diemwnt coch (gweler ffigur 1)), Fryngaer Foel Drygarn (sy’n cael ei ddangos gan y diemwnt gwyrdd (gweler ffigur 1)) a’r Hen Gastell (sy’n cael ei ddangos gan y diemwnt glas (gweler ffigur 1)).

PE117 Cylch Cerrig Gors Fawr, Mynachlog-ddu (SN 13476, 29414)

Mae’r heneb ar ochr ddeheuol mynyddoedd y Preseli o fewn cors Gors Fawr ac mae’n cynnwys un ar bymtheg o gerrig wedi’u trefnu ar ffurf cylch, 22 metr mewn diamedr. Credir bod yr heneb yn dyddio’n ôl i gynhanes diweddar a’i bod yn agos at nodweddion archeolegol cynhanesyddol eraill. Felly, gallai’r nodwedd fod yn rhan o naratif am y dirwedd ehangach yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Mae’n ymddangos hefyd fod gan y safle arwyddocâd archaeoastronomegol. Mae’r cylch cerrig yn debygol o edrych yr un fath ag y gwnaeth ar adeg ei adeiladu a’i ddefnyddio.

At ddibenion y prosiect hwn, dylai’r dehongliad ar gyfer y safle hwn ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Ei leoliad mewn perthynas â’r dirwedd ehangach.
  • Arwyddocâd archaeoastronomegol y safle.
  • Amodau hinsawdd yn ystod y cyfnod defnyddio.
  • Chwedlau, celf a barddoniaeth sydd wedi’i hysbrydoli gan y safle hwn.
  • Pa gynnwys dehongli y byddai cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn hoffi ei ddatblygu mewn perthynas â’r safle.

Dylai’r gwaith celf a’r testun cysylltiedig a gynhyrchir adlewyrchu ac ymgorffori’r ffactorau uchod. Mae’n werth nodi na fyddai panel dehongli yn briodol ar gyfer y safle hwn oherwydd ei leoliad; o’r herwydd, bydd y cynnwys a gynhyrchir yn cael ei gyflwyno drwy wefan y parc cenedlaethol. Mae cod QR eisoes yn bodoli ar gyfer y safle hwn, ond mae’r ddolen yn segur ar hyn o bryd.

Mae rhagor o wybodaeth am y safle ar gael isod:

 

PE010 Foel Drygarn, Crymych (SN 15766, 33589)

Mae’r heneb wedi’i lleoli ar gopa ddwyreiniol esgair Preseli ac mae’n agos at Grymych. Mae’r safle’n cynnwys yr hyn a ystyrir yn fryngaer, sy’n debygol o ddyddio i’r Oes Haearn. Mae’r nodweddion yn cynnwys rhagfuriau cerrig sych, ynghyd â gweddillion gwaith cloddio 270 o dai crynion. Yn ogystal, mae’r copa yn cynnwys tair carn fawr a all ddyddio i’r Oes Efydd. Mae’n debygol bod y safle wedi’i feddiannu dros sawl cam ac mae ei maint o’i gymharu â bryngaerau eraill yn Sir Benfro yn awgrymu ei fod wedi chwarae rhan sylweddol.

At ddibenion y prosiect hwn, dylai’r dehongliad ar gyfer y safle hwn ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Ail-greu’r safle’n ddigidol yn ystod y cyfnod y’i meddiannwyd, gan gynnwys cynnwys realiti estynedig.
  • Ei leoliad mewn perthynas â’r dirwedd ehangach.
  • Amodau hinsawdd yn ystod y cyfnod defnyddio.
  • Chwedlau, celf a barddoniaeth sydd wedi’i hysbrydoli gan y safle hwn.
  • Pa gynnwys dehongli y byddai cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn hoffi ei ddatblygu mewn perthynas â’r safle.

Dylai’r gwaith celf a’r testun cysylltiedig a gynhyrchir adlewyrchu ac ymgorffori’r ffactorau uchod. Mae’n werth nodi na fyddai panel dehongli yn briodol ar gyfer y safle hwn oherwydd ei leoliad; o’r herwydd, bydd y cynnwys a gynhyrchir yn cael ei gyflwyno drwy wefan y parc cenedlaethol. Mae cod QR eisoes yn bodoli ar gyfer y safle hwn, ond mae’r ddolen yn segur ar hyn o bryd.

Mae rhagor o wybodaeth am y safle ar gael isod:

 

PE404 Yr Hen Gastell, Trefdraeth (SN 05852, 39517)

Mae’r heneb yn Nhrefdraeth (Sir Benfro) ger ymyl aber Nanhyfer. Fe’i disgrifir fel banc hanner cylch gyda ffos allanol ac fe’i dehonglwyd fel y castell gwreiddiol a adeiladwyd pan sefydlwyd anheddiad Trefdraeth yn ystod yr Oesoedd Canol.

At ddibenion y prosiect hwn, dylai’r dehongliad ar gyfer y safle hwn ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Ail-greu’r castell yn ddigidol yn ystod y cyfnod y’i defnyddiwyd, gan gynnwys cynnwys realiti estynedig.
  • Ei leoliad mewn perthynas â’r fwrdeistref a sefydlwyd.
  • Pa gynnwys dehongli y byddai cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn hoffi ei ddatblygu mewn perthynas â’r safle.

Dylai’r gwaith celf a’r testun cysylltiedig a gynhyrchir adlewyrchu ac ymgorffori’r ffactorau uchod. Yn achos y safle hwn, mae panel dehongli wedi ei osod y bydd angen ei ddisodli. Bydd angen i ddimensiynau’r panel newydd gyfateb i’r un sydd yn bodoli ar hyn o bryd i gydymffurfio â rheoliadau cynllunio. Mae disgwyl i’r cynnwys digidol fod yn fwy eang ar dudalen we ar wefan APCAP sydd wedi’i chysylltu â’r panel ffisegol drwy god QR.

Mae rhagor o wybodaeth am y safle ar gael isod:

 

3. Elfennau Allweddol

Bydd y prosiect yn cynnwys yr elfennau allweddol canlynol:

  • Cynhyrchu ail-greu digidol, cynnwys realiti estynedig a delweddau.
  • Cynhyrchu panel dehongli ffisegol yn lle’r un sydd yn bodoli ar hyn o bryd ger safle’r Hen Gastell, Trefdraeth.
  • Ymgynghori a chynhyrchu testun dehongli, cynllun a chynnwys dwyieithog ar gyfer tudalennau gwe/panel ffisegol (yn achos yr Hen Gastell, Trefdraeth) a hefyd ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

 

4. ôl y contractwr, staff y parc cenedlaethol ac arbenigwyr eraill a nodwyd

Bydd y contractwr yn gyfrifol am gyflawni a chwblhau’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn (fel yr amlinellir yn y brîff hwn).

Bydd y contractwr yn gweithio’n agos gyda’r Archeolegydd Cymunedol ac unrhyw aelodau staff eraill y Parc Cenedlaethol sy’n berthnasol i gwblhau’r gwaith hwn. Bydd y contractwr yn cysylltu â’r Archeolegydd Cymunedol a fydd yn eu rhoi mewn cysylltiad â’r aelodau staff perthnasol eraill sydd eu hangen i gyflawni’r tasgau perthnasol sy’n gysylltiedig â’r gwaith prosiect hwn.

Lle bo angen, gall yr Archaeolegydd Cymunedol ymgynghori ag arbenigwyr allanol i adolygu deunydd sydd wedi cael ei gynhyrchu am y safleoedd archeolegol a/neu roi’r contractwr mewn cysylltiad ag arbenigwyr perthnasol.

Bydd angen i unrhyw waith a gynhyrchir gael ei gymeradwyo gan yr Archaeolegydd Cymunedol cyn iddo gael ei gwblhau a’i dderbyn.

 

5. Ymgysylltu A Grwpiau Cymunedol

Gan fod y gwaith yn ymwneud â safleoedd mewn lleoliadau ychydig yn wahanol, gall grwpiau cymunedol/rhanddeiliaid amrywio. O’r herwydd, bydd angen i’r contractwr ystyried gwahanol ddulliau o ymgysylltu o ran grwpiau/rhanddeiliaid a hefyd sut y caiff ei gyflawni.

Fel rhan o’r gwaith hwn, disgwylir y bydd yr ymgysylltu’n digwydd cyn cynhyrchu cynnwys dehongli, er enghraifft drwy weithdai cyhoeddus. Hefyd, ar ôl cynhyrchu cynnwys, disgwylir y bydd digwyddiadau/gweithgareddau’n cael eu cynnal i brofi cynnwys gyda grwpiau a gwneud newidiadau ar sail adborth. Mae hyn yn sicrhau bod cymunedau a rhanddeiliaid yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu’r cynnwys.

Er mwyn ehangu’r ymgysylltu, byddai’n ddymunol gweld cymysgedd o ddigwyddiadau/gweithgareddau wyneb yn wyneb a rhithwir yn cael eu cynnal. Dylai’r contractwr sicrhau bod ganddo strategaeth ar waith i liniaru effaith COVID sy’n galluogi ymgysylltu i barhau.

Dyma enghreifftiau o grwpiau cymunedol/rhanddeiliaid i’w hystyried:

  • Ysgolion/colegau lleol.
  • Trigolion lleol.
  • Cymuned ffermio.
  • Pobl oedrannus.
  • Grwpiau ieuenctid.
  • Grwpiau iaith Gymraeg.
  • Cynghorau Tref/Cymuned.
  • Ymwelwyr/twristiaid.
  • Y cyhoedd yn gyffredinol.
  • Arbenigwyr ar y safleoedd dan sylw.

Bydd disgwyl i’r contractwr gydlynu adborth/gwerthuso o weithgareddau ymgysylltu. Bydd y data hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio gan APCAP a phartneriaid fel rhan o’u gwerthusiad o’r prosiect hwn.

Er y bydd disgwyl i’r contractwr arwain y gwaith ymgysylltu, mae APCAP yn gweithio’n agos gyda nifer o grwpiau cymunedol/rhanddeiliaid a bydd yn ymdrechu i gefnogi’r contractwr gymaint â phosibl.

 

6. Elfennau i’w cyflawni

Dylai’r gwaith hwn gyflawni’r elfennau canlynol:

  • Cynnwys dehongli yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y tair heneb gofrestredig, gydag unrhyw destun cysylltiedig a deunydd perthnasol arall yn gwbl ddwyieithog.
  • Mae’r cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu yn gwbl weithredol ar wefan y Parc Cenedlaethol ac mae’r dolenni QR yn weithredol yn y safleoedd
  • Panel dehongli newydd wedi ei ddiweddaru a’i osod yn yr Hen Gastell, Trefdraeth.
  • Gweithgareddau/digwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cyflwyno ym mhob cam o ddatblygu a chynhyrchu cynnwys, gan gynnwys amrywiaeth eang o grwpiau cymunedol/rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â nhw. Mae adborth, cynnyrch ac argymhellion grwpiau cymunedol/rhanddeiliaid wedi’u gwreiddio yn y cynnwys terfynol a gynhyrchir.
  • Mae’r Gymraeg wedi’i gwreiddio a’i hystyried ym mhob agwedd ar y gwaith hwn, er enghraifft ymgysylltu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Mae’r holl ‘Allbynnau Digidol’ a gynhyrchir fel rhan o’r gwaith yn cydymffurfio â thelerau ac amodau ‘Allbynnau Digidol’ y Gronfa Dreftadaeth (gweler atodiad 1).

 

7. Sgiliau/Gofynion Contractwr

Mae’r gwaith hwn yn gofyn am y sgiliau/gofynion canlynol:

 

  • Profiad o gyflawni gwaith tebyg neu gyfatebol (HANFODOL).
  • Gallu darparu digwyddiadau/gweithgareddau ymgysylltu (HANFODOL).
  • Gallu gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau/rhanddeiliaid cymunedol (HANFODOL).
  • Sgiliau digidol sy’n berthnasol i’r gwaith hwn (HANFODOL).
  • Gallu cynhyrchu cynnwys dehongli (HANFODOL).
  • Gallu a seilwaith i ymgysylltu’n ddigidol, er enghraifft drwy Zoom (HANFODOL).
  • Cefndir ym maes dehongli, gan ganolbwyntio ar dreftadaeth (HANFODOL).
  • Gallu cyflawni’r gwaith yn ddwyieithog neu gael mesurau ar waith i wneud hynny (HANFODOL).
  • Cefndir mewn archaeoleg y safleoedd sydd wedi’u cynnwys yn y briff hwn (DYMUNOL).
  • Gwybodaeth am grwpiau/rhanddeiliaid cymunedol perthnasol (DYMUNOL).
  • Gwybodaeth am feysydd sydd wedi’u cynnwys yn y briff hwn (DYMUNOL).
  • Gwybodaeth am y parc cenedlaethol gan gynnwys dibenion (DYMUNOL).
  • Cwbl ddwyieithog (DYMUNOL).

 

8. Amserlen ar gyfer y gwaith hwn

Oherwydd y dyddiad cau a bennwyd gan y cyrff cyllido grantiau, rhaid cwblhau pob elfen o’r gwaith sydd wedi’i gynnwys yn y briff hwn erbyn 2 Rhagfyr 2022 fan bellaf.

 

9. Cyllideb

Mae cyllideb ddangosol o £20,000 heb gynnwys TAW ar gyfer y gwaith hwn. Oherwydd amod y cyllid grant, rhaid gwario isafswm o gyfanswm y gyllideb ar bob elfen o’r gwaith.

Elfen Isafswm gwariant Eich Cost (heb gynnwys TAW) 
1.      Cynhyrchu ail-greu digidol, cynnwys realiti estynedig a delweddau.  £7,500.00
2.      Cynhyrchu panel dehongli ffisegol yn lle’r un sydd yn bodoli ar hyn o bryd ger safle’r Hen Gastell, Trefdraeth.  £1,500.00
3.      Ymgynghori a chynhyrchu testun dehongli, cynllun a chynnwys dwyieithog ar gyfer tudalennau gwe/panel ffisegol (yn achos yr Hen Gastell, Trefdraeth) a hefyd ymgysylltu â chymunedau lleol a rhanddeiliaid drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.  £6,000.00

 

10. Ceisiadau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw hanner dydd ar 20 Mai 2022.

Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno’n electronig i tenders@pembrokeshirecoast.org.uk gan ddefnyddio’r llinell pwnc, Prosiect Dehongli Archaeoleg Arfordir Penfro 2022 – Cais.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r briff hwn at: archaeology@pembrokeshirecoast.org.uk

Cofiwch gynnwys y wybodaeth canlynol gyda’ch cais.

  1. Dull gweithio, gan gynnwys manylion unrhyw isgontractwyr (os oes rhai).
  2. Cerrig milltir allweddol, gan gynnwys sut y byddwch yn cyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau.
  3. Tystiolaeth o sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau/gofynion ar gyfer y gwaith hwn (gweler adran 7).
  4. Costau (yn dilyn y fformat a gyflwynir yn adran 9) a’r amserlen dalu arfaethedig.
  5. Enghreifftiau o waith tebyg arall wedi’i gwblhau
  6. Geirdaon
  7. Prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  8. Ffurflen ymateb i’r cais (gweler atodiad 2).

Bydd y ceisiadau’n cael eu gwerthuso yn ôl y meini prawf canlynol:

Meini Prawf  Pwysoliad 
Sgiliau a phrofiad perthnasol 20%
Ansawdd y dull a’r dull gweithredu 20%
Deall y briff 20%
Pris 40%

 

Bydd y dyfynbris cyffredinol yn cael ei sgorio fel y nodir isod:

Sgôr  Barn  Dehongli 
5 Rhagorol Mae’r Contractwr yn dangos lefel ragorol o’r gallu, y ddealltwriaeth, y profiad, y sgiliau, yr adnoddau a’r mesurau ansawdd perthnasol sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau. Mae’r ymateb yn nodi tystiolaeth i gefnogi’r ymateb. Mae’r Contractwr yn dangos yn glir beth y bydd yn ei wneud er mwyn cyflawni’r gofyniad.
4 Da Mae’r Contractwr yn dangos lefel uwch na’r cyfartaledd o’r gallu, y ddealltwriaeth, y profiad, y sgiliau, yr adnoddau a’r mesurau ansawdd perthnasol sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau.
3 Derbyniol Mae’r Contractwr yn dangos lefel dderbyniol o’r gallu, y ddealltwriaeth, y profiad, y sgiliau, yr adnoddau a’r mesurau ansawdd perthnasol sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau.
2 /1 Amheuon Rhywfaint o amheuon / amheuon sylweddol ynghylch gallu, dealltwriaeth, profiad, sgiliau, adnoddau a mesurau ansawdd perthnasol y Contractwr i ddarparu’r gwasanaethau.
0 Annerbyniol Nid yw’n cydymffurfio a/neu nid oes digon o wybodaeth wedi’i darparu i ddangos bod y Contractwr yn meddu ar y gallu, y ddealltwriaeth, y profiad, y sgiliau, yr adnoddau a’r mesurau ansawdd gofynnol i ddarparu’r gwasanaethau.

 

Bydd y pris yn cael ei sgorio yn ôl y fformiwla ganlynol:

           Pris Dyfynbris Sgôr (%)
Dyfynbris isaf (L) 100%
Nfed dyfynbris isaf (NL) L / NL x 100

 

11. Amodau ymgysylltu

Nid yw cyflwyno cais yn ymrwymo APCAP i ddefnyddio gwasanaethau contractwr. Ar ôl cael ei benodi, bydd disgwyl i’r contractwr llwyddiannus gyflawni’r gwaith yn unol â’i gyflwyniad ar ôl i APCAP gomisiynu’r gwaith iddo ac ar ôl i’r contractwr dderbyn y comisiwn. Disgwylir y bydd cais y contractwr yn ddilys i’w dderbyn am gyfnod o 90 diwrnod o’r dyddiad cau a nodir uchod.

 

Logos for the Pembrokeshire Coast National Park, Pembrokeshire Coast National Park trust, Heritage Lottery Fund, Cadw and Welsh Government

 

Atodiad 1 – Telerau Ac Amodau Allbynnau Digidol

  • Rhyddhau pob Allbwn Digidol a ariennir gan Grant o dan ein trwydded ddiofyn, Creative Commons Attribution 4.0 International (CC BY 4.0) neu gyfwerth, ac eithrio cod a metadata y dylid eu marcio â thir comin Creadigol 0 1.0 Cyffredinol (CC0 1.0) Ymroddiad Parth Cyhoeddus neu gyfwerth. Ni ellir cynnwys asedau sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd yn ein trwydded ofynnol, felly dylid eu marcio â Creative Commons 0 1.0 Universal (CC0 1.0) Public Domain Dedication, neu gyfwerth.
  • Ni ddylai unrhyw hawliau newydd godi mewn deunyddiau nad ydynt yn wreiddiol o ganlyniad i atgynhyrchu gwaith parth cyhoeddus a gefnogir gan gyllid grant. Dylid rhannu atgynhyrchiadau digidol o ddeunyddiau parth cyhoeddus, gan gynnwys delweddau ffotograffig a data 3D, o dan CC0 1.0 Ymroddiad Parth Cyhoeddus.
  • Bod yn ddeiliad hawliau unrhyw ddeunyddiau gwreiddiol a ariennir gan y Grant a gynhyrchir gennych. Pan fydd pobl eraill yn cyfrannu deunyddiau i’r Prosiect, neu os yw’r Prosiect yn defnyddio deunyddiau sy’n bodoli eisoes, eich cyfrifoldeb chi fydd cael caniatâd gan y deiliad hawliau i gymhwyso ein trwydded ddiofyn,
  • Sicrhau bod yr Allbynnau Digidol yn cael eu diweddaru, eu gweithredu fel y bwriadwyd ac nad ydynt yn dod i ben cyn pum mlynedd ar ôl Dyddiad Cwblhau eich Prosiect, (neu os yw’r ymgeisydd arweiniol yn berchennog preifat ar dreftadaeth, am 10 mlynedd o Ddyddiad Cwblhau’r Prosiect),
  • Sicrhau bod gwefannau a chynnwys y wefan yn bodloni o leiaf safon hygyrchedd Sengl A W3C,
  • Rhoi cyfeiriad neu gyfeiriadau gwe (URL/au) y wefan, neu safleoedd, a fydd yn cynnal eich Allbynnau Digidol, a diweddaru’r rhain os caiff deunyddiau eu hadleoli,
  • Sicrhau mynediad ar-lein am ddim a digyfyngiad i’r Allbynnau Digidol.

Nodwch: Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r telerau ac amodau uchod, bydd APCAP, YPCAP ac unrhyw bartneriaid perthnasol eraill yn cadw perchnogaeth hawlfraint lawn dros unrhyw ddeunydd a gynhyrchir gan y contractwr mewn cysylltiad â gwaith y brîff hwn.