Cynllun Cadeiriau Olwyn y Traeth yn cael cefnogaeth gan animeiddiad myfyrwyr Prifysgol Bournemouth

Cyhoeddwyd : 26/09/2022

Mae Prosiect Symudedd Awyr Agored Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei hyrwyddo ar-lein diolch i animeiddiad a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bournemouth.

Mae’r animeiddiad, sydd wedi cael ei greu ar gyfer BFX, yr ŵyl animeiddio a’r gêm gyfrifiadur fwyaf yn y DU, yn cynnwys math o gadeiriau olwyn y traeth sydd wedi’u dylunio’n arbennig ac sydd ar gael i’w llogi mewn lleoliadau amrywiol o amgylch Arfordir Penfro.

Mae Prosiect Symudedd Awyr Agored Awdurdod y Parc yn Sir Benfro hefyd yn cynnwys sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn bob tir, sydd ar gael mewn lleoliadau mewndirol gan gynnwys Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.

Dywedodd Hannah Buck, Swyddog Polisi Iechyd a Llesiant Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Roeddem yn falch iawn o gael ein dewis i fod yn rhan o’r gystadleuaeth ac wedi ein syfrdanu gan ansawdd y gwaith a’r sylw i’r manylion a ddangoswyd gan y myfyrwyr.

“Mae’r myfyrwyr wedi bod yn wych i weithio â nhw, ac maen nhw wedi deall ein briff yn iawn. Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r animeiddiad gorffenedig, a fydd yn helpu i ledaenu’r neges am yr amrywiaeth o offer sydd ar gael i’w llogi o amgylch y Parc Cenedlaethol.

Mae’r animeiddiad o’r enw ‘Diwrnod ar y Traeth’ (A Day at the Seaside) yn gweld mam hŷn a’i mab yn edrych ar hen luniau o wyliau teuluol i Sir Benfro yn 1982.

Mae’r fam yn nodi y byddai ei defnydd o ffon gerdded yn gwneud taith yn ôl yn amhosibl, ond mae’r mab yn ymddangos gyda chadair olwyn y traeth ac mae’r ddau’n gallu mwynhau diwrnod ar y traeth, yn union fel y gwnaethant 40 mlynedd ynghynt.

Bydd enillwyr y gystadleuaeth animeiddio yn cael eu cyhoeddi yn ystod Gŵyl BFX ym mis Tachwedd.

Y tîm y tu ôl i’r animeiddiad yw anet He, Koey Leung, Malachi Dempsey-Clark, Maria Bartucca a Soraya Assadian, gyda cherddoriaeth gan Jess Ward

I gael rhagor o wybodaeth am gystadleuaeth Gŵyl FX, ewch i www.bfxfestival.com/competitions.

I weld y fideo, i gael rhagor o wybodaeth am gadeiriau olwyn y traeth ac i gael gwybod sut mae archebu ymlaen llaw, ewch i’r tudalen Cadeiriau Olwyn y Traethau.