Cyfle olaf i roi eich barn ar amrywiaeth o ganllawiau cynllunio

Cyhoeddwyd : 22/03/2022

Rydyn ni’n atgoffa aelodau’r cyhoedd bod y dyddiad cau ar gyfer rhoi adborth ar amrywiaeth o ganllawiau cynllunio atodol sy’n cael eu cynnig ar gyfer Sir Benfro yn prysur agosáu.

Mae canllawiau cynllunio atodol yn nodi gwybodaeth fanylach ar sut y bydd polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu rhoi ar waith mewn amgylchiadau neu ardaloedd penodol.

Mae ymgynghoriad ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar Effaith Gronnus Tyrbinau Gwynt yn berthnasol i Sir Benfro gyfan.

Fodd bynnag, mae Awdurdod y Parc hefyd yn cynnal ymgynghoriadau cydamserol ar sawl dogfen arall o fewn y canllawiau cynllunio atodol sy’n berthnasol i leoliadau Parciau Cenedlaethol yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ansefydlogrwydd Tir – Hen Weithfeydd Glo
  • Colli Gwestai
  • Safle Geoamrywiaeth o Bwys Rhanbarthol
  • Parthau Diogelu Mwynau
  • Ardaloedd Cadwraeth yn Angle, Caerfarchell, Ynys Bŷr, Little Haven, Maenorbŷr, Trefdraeth, Portclew, Porthgain, Saundersfoot, Solfach, Tyddewi, Dinbych-y-pysgod a Threfin.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer pob dogfen yn dod i ben am 4.30pm ddydd Gwener 15 Ebrill 2022.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho ffurflen ymateb i lawr, ewch i’n tudalen Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ymgynghori.

Gallwch anfon ffurflenni ymateb wedi’u llenwi drwy anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk neu eu hanfon drwy’r post/â llaw at: Cyfeiriad y Parc, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.