Adroddiad Cyfrifon 2020/21

Cyhoeddwyd : 07/06/2021

Bydd Adroddiad Cyfrifon 2020/21 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael o’r 21/06/21.

Gellir cael copi drwy:

O 21/06/21 i 16/07/21 rhwng 10am a 4pm cewch weld a gwneud copïau o’r cyfrifon a’r wybodaeth atodol – dylech gysylltu â’r swyddfa ym Mharc Llanion os byddwch am wneud hynny.

Ar neu ar ôl 19/07/21 bydd yr Archwilydd Penodedig yn medru derbyn ymholiadau, sylwadau neu wrthwynebiadau i’r cyfrifon. Fodd bynnag, rhaid i’r Archwilydd Penodedig yn gyntaf dderbyn disgrifiad ysgrifenedig llawn o’r gwrthwynebiad a sail y gwrthwynebiad hwnnw a dylid anfon copi hefyd at swyddfa’r Awdurdod ym Mharc Llanion cyn 19/07/21.

Mr.Adrian Crompton yw cynrychiolydd yr Archwilydd Penodedig a’r cyfeiriad yw Heol y Gaeirlan, Caerdydd CF11 9LJ. Gellir gwrthwynebu unrhyw fater y gall yr Archwilydd Penodedig weithredu yn ei gylch, sef eitem anghyfreithlon, methiant i ymdrin â swm, neu golled neu ddiffyg a achoswyd gan gamymddwyn bwriadol. Gellir gwrthwynebu materion eraill y gallai’r Archwilydd Penodedig baratoi adroddiad arno er budd y cyhoedd.

Mae’r wybodaeth hon yn yr hysbysiad hwn yn cydymffurfio â’r gofynion a amlinellir yn adrannau 29, 30 a 31 Deddf Archwiliad Cyhoeddus (Cymru) 2004 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 2005

Pe carech chi ofyn am wybodaeth bellach neu os nad ydych chi’n deall yr hysbysiad hwn yn llawn, dylech gysylltu â Rheolwr Cyllid yr Awdurdod, ar y rhif ffôn 01646 624815.

Dyddiad: 04/06/21

Richard Griffiths,
Prif Swyddog Cyllid
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro