Cynllun Datblygu Lleol 3 : Cytundeb Cyflawni
Rydym yn ymgynghori ar Gytundeb Cyflawni drafft ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol 3 newydd (CDLl 3). Mae’r Cytundeb Cyflawni drafft yn cynnwys amserlen ar gyfer paratoi CDLl 3 ac yn dynodi’r ffyrdd gorau i ymgysylltu gyda phawb yn ein barn ni.
Mae’r cyfnod ymgynghori yn rhedeg o ddydd Llun 19 Mai hyd ddydd Llun 14 Gorffennaf am 5pm. Gellir gweld copïau papur ym mhrif Swyddfa’r Awdurdod ym Mharc Llanion, Doc Penfro. Caiff yr holl sylwadau a dderbynnir eu rhannu’n gyhoeddus.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn gwahodd sylwadau ar Cynllun Datblygu Lleol 3 Cytundeb Cyflawni drafft.
Sut i gyflwyno eich sylwadau
Y dull mwyaf cyfleus yw ar-lein.
I gyflwyno sylwadau trwy ein holiadur ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod:
Holiadur: https://forms.office.com/e/mH6cDmpS93
Fel arall, os byddai’n well gennych ysgrifennu atom, cyfeiriwch yn benodol at y mater/polisi rydych yn gwneud sylwadau arno a chysylltwch â ni drwy’r dulliau canlynol:
E-bost: devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.
Cyfeiriad post: Polisi Strategol yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY
Rhaid i chi gynnwys eich enw, e-bost a chyfeiriad yn eich ymateb.
Datganiad preifatrwydd
Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio’n ddiogel a’i chadw’n unol â hysbysiad Preifatrwydd Cynllunio’r Awdurdod ac amserlen cadw data. Gallwch weld yr hysbysiad preifatrwydd cynllunio yma: https://www.arfordirpenfro.cymru/cynllunio/polisiau-cynllunio/cynllun-datblygu-lleol-3/
Sylwch y bydd yr Adroddiad Ymgynghori ar gael i’r cyhoedd ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd cyn i’r adroddiad gael ei anfon drwy gysylltu â: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.