Gweithio i Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Sut brofiad yw gweithio yma?

Mae Sir Benfro a'r Parc Cenedlaethol yn llefydd gwych i fyw a gweithio, a gallai penderfynu gweithio gyda ni fod yn un o'r penderfyniadau mwyaf boddhaus a chyffrous a wnewch.

Byddech yn ymuno ag Awdurdod lle gallwch chi wir deimlo’n rhan o weithgaredd yr Awdurdod ac yn cyfrannu at y gymuned.

Rydym yn gyfeillgar, yn groesawgar ac mae gennym bolisïau ac arferion cyflogaeth gwych sy’n gwneud hwn yn lle hapus ac iach i weithio.

Mae rhyw 150 o bobl yn gweithio i’r Awdurdod ar draws ystod eang o swyddi gan gynnwys Swyddogion Cynllunio, Parcmyn a Wardeniaid, Cynorthwywyr Gweinyddol, Swyddogion Cadwraeth, Arweinyddion Gweithgareddau, Swyddogion TG, Swyddogion Cyllid a Swyddogion Cyfathrebu.

Mae nifer o’r staff yn gweithio o’n pencadlys yn Noc Penfro, neu o Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, Castell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys a Chanolfan Goetir Cilrhedyn.

Buddiannau a thelerau ac amodau

Mae’r Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn awdurdod lleol dibenion arbennig felly mae gweithio yma â nifer o delerau ac amodau tebyg i weithio i’ch cyngor lleol.

 

Tâl

​Rydym yn defnyddio pwyntiau cyflog Llywodraeth Leol (NJC) sy’n destun cyd-drafod yn genedlaethol; lle mae’r cyfraddau cyflogau yn is na’r gyfradd Cyflog Byw (sef y gyfradd Cyflog Byw dewisol, sy’n uwch na’r Cyflog Byw Cenedlaethol statudol) rydym yn talu lwfans byw atodol yn ogystal â thâl sylfaenol i sicrhau y bydd neb yn derbyn llai na’r gyfradd Cyflog Byw. Os nad yw eich cyflog cychwynnol ar frig y raddfa a hysbysebir ar gyfer eich swydd, mae cynyddrannau blynyddol yn daladwy.

 

Pensiwn

Mae hawl gennych fod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol sydd yn gynllun buddiannau statudol, diffiniedig y mae’r cyflogeion a’r cyflogwyr yn cyfrannu iddo.

 

Oriau Gwaith

Yn ymrwymedig i sicrhau arferion gwaith diogel a iach, rydym yn annog yn frwd y cyflogeion i ystyried eu cydbwysedd bywyd a gwaith a’u hanghenion, felly mae gennym staff sy’n gweithio nifer o wahanol batrymau gwaith oriau hyblyg a rhan-amser. Yr wythnos sylfaenol yw 37 awr.

National Park Authority Warden using machine on Coast Path near Marloes Sands

Gwyliau

Mae’r gwyliau yn cychwyn ar 25 diwrnod y flwyddyn, gan godi i 30 diwrnod, a gwyliau cyhoeddus, ac fel arfer 3 diwrnod ychwanegol adeg y Nadolig a’r Calan.

 

Cyfnod Prawf

Os ydych yn newydd i Lywodraeth Leol, bydd cyfnod prawf o chwe mis tra byddwch (gobeithio) yn ymgyfarwyddo â’ch swydd.

 

Adleoli

Symud i Sir Benfro? Efallai y gallwn helpu gyda threuliau’r symud: hyd at uchafswm o £5,500 i gyflogeion sydd angen adleoli ac sy’n gymwys o dan y cynllun.

 

Llinell gymorth a chwnsela

Mae cwnsela allanol a llinell gymorth 24 awr ar gael i’r staff.

 

Gostyngiadau’r Parc Cenedlaethol

Mae pob cyflogai yn gymwys i gael rhai gostyngiadau ar safleoedd/deunydd marchnata y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys gyda Columbia sy’n darparu ein gwisg swyddogol.

Oriel y Parc Visitor Centre, St Davids

Cynlluniau a Gostyngiadau Eraill

Hefyd rydym yn rhan o gynlluniau eraill ac aelodaeth megis y Cynllun Beicio i’r Gwaith, Cymdeithas Ysbytai Cymru; UNSAIN; Loteri Sir Benfro, lle gellir gwneud ôl-dyniadau yn uniongyrchol o gyflogau, a bydd gennych hawl i aelodaeth gorfforaethol o Wasanaethau Hamdden Cyngor Sir Penfro.

 

Cymdeithas Staff Parciau Cenedlaethol

Byddwch yn rhan o’r gymdeithas hon o staff y Parciau Cenedlaethol ar draws gwledydd Prydain a gallwch fwynhau cyfleoedd i ymuno ar gyfer digwyddiadau, yn ogystal â grantiau ar gyfer hyfforddiant a theithio.

 

Ymgysylltu â’r Cyflogeion – drwy’r Grŵp Cynrychiolwyr Staff/Fforwm Gweithwyr/Grŵp Iechyd a Diogelwch

Mae’r grwpiau hyn yn cyfarfod yn gyson gyda chynrychiolwyr o dimau ar draws yr Awdurdod. Y Fforwm Cyflogeion yw’r fforwm lle mae’r cyflogeion yn cyfarfod ag Aelodau’r Awdurdod.

 

Datblygiad Cyflogeion

Byddwch yn cael adolygiad ffurfiol blynyddol gyda’ch rheolwr fel y gallwch adolygu a chynllunio eich anghenion datblygu. Mae’r Awdurdod yn awyddus i gefnogi dysgu a hyfforddiant (perthnasol).

 

Cynaliadwyedd

Byddwch yn gweld ein hegwyddorion ‘gwyrdd’ ar waith ar draws ein safleoedd, a gwaith megis gwresogi biomas ym Mharc Llanion a nodweddion dylunio cynaliadwy yn Oriel y Parc.

Gweler manylion am swyddi a gwneud cais ar-lein nawr!