I wneud cais am swydd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, bydd angen i chi ddefnyddio ein proses o wneud cais ar-lein.
Os nad oes mynediad i’r rhyngrwyd gennych yn eich cartref, mae Wi-Fi di-dâl a chyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd ym mhob prif lyfrgell yn Sir Benfro.
Mae ein system o wneud cais am swydd ar-lein yn hawdd ei defnyddio fydd yn eich cymryd cam wrth gam drwy’r broses o wneud cais. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os byddwch yn cael unrhyw anhawster neu os yw fformat arall yn haws i chi, rhowch alwad i ni ar 01646 624800 a gofyn am y tîm Personnel, neu fel arall anfonwch e-bost atom.
Derbynnir ceisiadau mewn fformatau eraill os yw hynny’n fwy addas oherwydd anabledd.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch cais, byddwch yn derbyn e-bost fel mater o drefn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. Bydd e-byst eraill yn dilyn ar ôl y dyddiad cau yn rhoi diweddariad i chi ar hynt eich cais. Cofiwch sicrhau eich bod yn ymateb cyn y dyddiad cau gan na fyddwn o bosibl yn ystyried ceisiadau hwyr.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gyflogwr cyfle cyfartal, a dewisir cyflogeion ar deilyngdod ac addasrwydd. Mae hyn yn golygu’r person sydd â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sy’n gweddu orau i ofynion y swydd.
Fel corff cyhoeddus, disgwyliwn i’n cyflogeion weithredu mewn modd sy’n cynnal hyder y cyhoedd. Golyga hyn bod rhaid i ymgeiswyr beidio â chanfasio Aelodau na chyflogeion yma, ac ni ddylai cyfweliad/dethol gynnwys recriwtwyr ac ymgeiswyr sy’n perthyn neu sydd mewn perthynas bersonol agos. Rhowch wybod i ni yn eich datganiad am unrhyw berthynas y dylwn gymryd i ystyriaeth.
Gallwch gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg; na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Cyfeiriwch at Fframwaith Sgiliau Iaith Gymraeg am esboniad o’r lefel sgiliau a ddefnyddiwn.
Efallai y gofynnir i chi am eich lefel sgiliau yn eich cais.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am swydd wag, eich cais neu ymholiadau cyffredinol am gyfleoedd swyddi yn yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, ffoniwch 01646 624800 a gofyn am Personnel, neu fel arall anfonwch e-bost atom.
Cynghorion ar Wneud Cais a Chyfweliad
Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd canlynol i’ch helpu i lenwi eich cais. Cofiwch mai dyma’r cam cyntaf yn y broses all arwain at gael cyfweliad ac o bosibl at gael cynnig swydd. Dylech felly lenwi’r cais orau y medrwch. Mae’n werth cymryd yr amser i’w wneud yn iawn.
Yn gyntaf, darllenwch y wybodaeth a ddarperir am y swydd, y gofynion personol ac ati, ac o bosibl, ymchwiliwch ymhellach ar ein gwefan.
Bydd rhai o’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad yn hanfodol ar gyfer y swydd a dylech egluro yn eich cais sut ydych yn bodloni pob un o’r rhain. Ni chewch eich gwahodd am gyfweliad oni bai eich bod o leiaf yn gweddu i’r rhain.
Efallai y bydd rhai sgiliau, gwybodaeth neu brofiad sy’n ddymunol fydd yn eich galluogi i gyflawni’r swydd yn fwy effeithiol. Defnyddir y rhain i benderfynu pwy i wahodd am gyfweliad os oes gan nifer fawr o’r ymgeiswyr bob un o’r meini prawf hanfodol.
Wrth lenwi’r “Datganiad i gefnogi’r cais”, defnyddiwch y fanyleb person i’ch helpu i strwythuro’r agweddau perthnasol o’ch profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth. Anelwch at roi tystiolaeth yn eich cais sy’n cyfateb i bob un o’r meini prawf ar y fanyleb person.
Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio enghreifftiau i ddangos yn glir sut ydych chi’n bodloni’r meini prawf hanfodol a dymunol. Nid oes angen i enghreifftiau fod o’ch profiad gwaith – gallant fod o feysydd eraill o’ch bywyd megis cyfrifoldebau domestig neu weithgareddau cymdeithasol. Felly peidiwch â rhoi “Rydw i’n cyfathrebu’n dda, ar lafar ac yn ysgrifenedig” dywedwch wrthym sut, er enghraifft “Fel ysgrifennydd y gymdeithas blasu gwin lleol, rwyf yn trafod gostyngiadau gyda masnachwyr gwin lleol ac yn trefnu nifer o ymweliadau’r Gymdeithas â Calais bob blwyddyn.”
Mae’n bwysig eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol yn eich cais, ni fyddwn yn dyfalu nac yn rhagdybio os na fyddwch yn cynnwys gwybodaeth. Peidiwch â dibynnu ar allu dweud wrthym mewn cyfweliad – os nad ydych yn llenwi eich cais yn llawn, ni fyddwch yn cael cynnig cyfweliad.
Efallai y byddwch yn synnu clywed bod cynifer â 75% o ymgeiswyr yn perfformio’n wael mewn cyfweliad. Yn y mwyafrif o achosion, yr hyn sydd i gyfrif am hynny yw nad oes ganddynt y sgiliau cyfweld angenrheidiol yn hytrach na’u bod yn anaddas ar gyfer y swydd. Felly, os yw meddwl am fynd i gyfweliad yn eich digalonni, dylai’r cyngor canlynol fod yn eithaf defnyddiol i chi.
Paratoi cyn cyfweliad
Y cam cyntaf tuag at unrhyw gyfweliad llwyddiannus yw’r paratoi. Gwnewch eich gwaith cartref:
- Cyn y cyfweliad ceisiwch ddarganfod gymaint ag y medrwch am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Awdurdod.
- Os ydych yn ddigon ffodus i adnabod rhywun sy’n gweithio i ni, yna holwch hwy i ddarganfod gymaint ag y medrwch oddi wrthynt.
- Bydd gwaith ymchwil yn gwella unrhyw gyflwyniad y bydd raid i chi o bosibl ei wneud. Bydd eich gwybodaeth a’r ymdrech yr ydych wedi’i wneud yn eich gwaith paratoi yn creu argraff dda ar y rhai sy’n cyfweld.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ymhle fydd y cyfweliad yn cael ei gynnal a chynlluniwch eich taith.
Beth fyddwn yn ei ofyn o bosibl mewn cyfweliad?
- Mae’n debyg y gofynnir nifer o gwestiynau i chi am eich profiad blaenorol, megis y cyfrifoldebau oedd gennych a’r hyn a gyflawnwyd gennych.
- A byddwn yn chwilio am ‘dystiolaeth’ o sut ydych chi’n gweddu i’r meini prawf a restrir ar y fanyleb person. Er enghraifft, os ydym am gael cyfathrebwr da, byddwn yn disgwyl i hynny ddangos yn y cyfweliad.
- Byddwn yn gofyn am enghreifftiau o’r modd yr ydych wedi cymryd camau yn y gorffennol mewn sefyllfaoedd tebyg i’r hyn a ddisgwylir yn y swydd dan sylw. Felly, meddyliwch am y wybodaeth a roesoch yn eich cais, byddwch yn glir ynghylch sut yr ydych yn bodloni’r hyn yr ydym yn chwilio amdano. A gwnewch yn siŵr eich bod yn meddwl am rai enghreifftiau.
Hefyd dangoswch bod gennych ddiddordeb ynom ni!
Penderfynwch a oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, y buddiannau, datblygu gyrfa a hyfforddiant, a gwnewch restr o’r rhain i fynd gyda chi i’r cyfweliad.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi wneud ‘prawf’ gallu/sgiliau/doniau fel rhan o’r cyfweliad, neu gyflwyniad o bosibl.
Os ydych wedi paratoi’n dda, rydych yn debygol o swnio’n hyderus, yn drefnus ac yn llawn cymhelliant yn ogystal â bod mewn sefyllfa dda i wneud eich gorau.
Y cyfweliad
- Mae’r argraffiadau cyntaf yn cyfrif, felly gwisgwch yn briodol ac yn drwsiadus, byddwch yn gwrtais. Cyrhaeddwch ar amser.
- Ceisiwch ganolbwyntio gydol yr amser ar y person sy’n gofyn y cwestiynau – rhowch eich sylw llawn iddo ef/hi. Peidiwch â gadael i’r ffaith bod y cyfwelwyr yn cymryd nodiadau yn ystod y cyfweliad dynnu eich sylw.
- Byddwch yn gadarnhaol amdanoch chi eich hun a’ch llwyddiannau, a chanolbwyntiwch ar eich cryfderau.
- Peidiwch â bod yn negyddol am eich cyflogwr blaenorol.
- Rhowch amser i chi eich hun feddwl – peidiwch ag ofni cymryd saib os bydd angen i chi feddwl am eich ateb.
- Byddwch yn glir a cheisiwch beidio â chrwydro. Os ydych chi’n gwybod eich bod yn tueddu i siarad gormod pan fyddwch yn nerfus, yna cadwch hyn mewn cof a cheisiwch feddwl ymlaen llaw sut y gallwch reoli hyn. Os ydych chi’n tueddu i fethu â dod o hyd i’r geiriau pan fyddwch yn nerfus, yna dylai’r gwaith paratoi yr ydych wedi’i wneud helpu, oherwydd bydd pethau’n barod gennych i’w dweud.
- Byddwch yn barod bob amser i roi enghreifftiau mewn bywyd go iawn i gefnogi unrhyw bwyntiau a wnewch.
- Gofynnwch i’r cyfwelydd am eglurhad os nad ydych yn siŵr beth y mae yn ei ofyn.
- Peidiwch â diystyru eich sgiliau a’ch galluoedd.
- Os nad ydych chi’n gwybod yr ateb i gwestiwn, dywedwch hynny. Does dim byd o’i le ar fod yn onest.
Dylech bob amser ddod yn barod gyda’ch cwestiynau eich hun i’w holi ar ddiwedd y cyfweliad. Er enghraifft, efallai yr hoffech wybod am yr amgylchedd gwaith, p’un a fyddwch chi’n gweithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm mwy, beth yw’r rhagolygon ar gyfer hyfforddiant a dyrchafiad, ac ati. Mae hyn yn dangos eich bod wedi meddwl o ddifrif am y swydd a bod gennych ddiddordeb gwirioneddol.
Gallwch hefyd wneud nodiadau ar unrhyw bwyntiau eraill sy’n codi yn y drafodaeth y byddwch o bosibl yn dymuno cael eglurhad arnynt yn ddiweddarach yn y cyfweliad.
Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i benderfynu p’un a ydych am y swydd ai peidio, ac os ydych, yna gwnewch hynny’n glir yn y cyfweliad.
Dylem roi gwybod i chi beth sy’n digwydd nesaf (e.e. os bydd ail gyfweliad, neu pryd fyddwn yn cysylltu â’r canlyniad) ond os byddwn yn anghofio, yna gofynnwch.