Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 10/02/21

Dyddiad y Cyfarfod : 10/02/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd 2020

4. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2020

5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/21 Strategaeth Archwilio Cyfrifon a’r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol a’r Adroddiad Cryno ar Sicrwydd Rheolaethau Mewnol
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Strategaeth Archwilio Cyfrifon a’r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol a’r Adroddiad Cryno ar Sicrwydd Rheolaethau Mewnol oddi wrth Archwilwyr Mewnol yr Awdurdod TIAA.

02/21 Llythyr Archwilio Blynyddol 2019-20 a’r Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020
Mae llythyr Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi manylion am ei gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r Cod Ymarfer Archwilio. Hefyd mae Archwilio Cymru wedi cyflwyno Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020. Mae’r ddwy ddogfen ynghlwm.

03/21 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Rhagfyr 2020
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2020.

04/21 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2020
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

05/21 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Hydref – Rhagfyr 2020 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

06/21 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

5.    Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd