Awdurdod y Parc Cenedlaethol

Dyddiad y Cyfarfod : 29/07/2020

Rhith-Gyfarfod, 10am

1.  Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 3 Mehefin 2020 – Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol , a’r

b) 3 Mehefin 2020 – Cyfarfod Cyffredin

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020, 10 Chwefror 2020, 3 Mehefin 2020, 10 Mehefin 2020 a’r 1 Gorffennaf  2020

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Mai 2020

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 20 Mai 2020

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2020

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

29/20 Cynllun Adfer yn sgil y Coronafeirws (COVID-19)

Rhennir Rhan A o Gynllun Adfer yr Awdurdod gyda’r Aelodau i roi trosolwg iddynt o’r egwyddorion arweiniol sy’n cael eu mabwysiadu ar gyfer Adfer.  Mae Rhan A yn gweithredu fel fframwaith ar gyfer cynlluniau manwl ar lefel weithredol ac ar lefel adrannol ac Asesiadau Risg sy’n seiliedig ar dasgau.

30/20 Ymestyn y newidiadau dros dro i Gynllun Dirprwyo’r Awdurdod yng ngoleuni effaith Covid-19

Er mwyn galluogi parhad y gwasanaeth cynllunio yn ystod cyfnod Covid-19, cynigir ymestyn y diwygiadau dros dro a wnaed i’r cynllun dirprwyo ar 6 Mai 2020 tan 2 Rhagfyr 2020

31/20 Parciau Cenedlaethol Cymru: “Tirweddau i Bawb” Ein hagwedd at Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant’

Mae’r adroddiad yn cyflwyno ‘Parciau Cenedlaethol Cymru: “Tirweddau i Bawb” Ein hagwedd at Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant’’ i’r Aelodau.

32/20 Y Pwyllgor Safonau: Ailbenodi Aelod Annibynnol

Diben yr adroddiad yw cadarnhau ailbenodiad Mrs Victoria Tomlinson yn Aelod Annibynnol o Bwyllgor Safonau’r Awdurdod.

33/20 Cymeradwyo Grantiau yn unol ag Adran 76 o’r Safonau Ariannol

Gofynnir am gymeradwyaeth ar gyfer taliad o hyd at oddeutu £75,000 i Gyngor Sir Penfro fel cyfraniad tuag at Bartneriaeth Lonydd Glas Sir Benfro.

34/20 Aelodaeth Pwyllgorau a Chyrff Allanol.

Mae’r adroddiad yn ceisio cadarnhad o aelodaeth Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu’r Awdurdod; Pwyllgor Cwynion, a Phwyllgor Apeliadau a hefyd enwebu Aelod dirprwyol ar Weithgor Agregau Rhanbarthol De-orllewin Cymru

35/20 Adolygu ac ailffocysu’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy i ddarparu prosiectau sy’n ymateb i’r argyfwng newid yn yr hinsawdd

Mae pwyllgor y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, gan ymateb i Gynllun Gweithredu Newid Hinsawdd APC, wedi adolygu dibenion a darpariaeth y Gronfa yn ystod gweithdy ar 15 Gorffennaf 2020.  Mae’r papur yn amlinellu eu hargymhellion ar gyfer y gronfa.

36/20 Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Ein Blwyddyn Gyntaf 2019/2020

Mae’r adroddiad yn darparu diweddariad ac adolygiad o flwyddyn gyntaf Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gan gynnwys cyflwyniad o’r arian a gynhyrchwyd a’r prosiectau a gefnogir ar draws y Parc Cenedlaethol.

 

 

Lawrlwythwch y cofnodion