Awdurdod y Parc Cenedlaethol 05/05/21

Dyddiad y Cyfarfod : 05/05/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2021 a 12 Ebrill 2021

7.  Nodir adroddiadau cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021

9.  Ystyried adroddiad cyfarfod y Panel Adolygu Perfformiad y Prif Weithredwr a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021

10. Penodi Aelod ar Grŵp Ymgynghorol Parth Cadwraeth Morol Skomer.

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

17/21 Archwilio Cymru: Adolygu Cydnerthedd – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno adroddiad Archwilio Cymru ar “Adolygu Cydnerthedd” – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

18/21 Cytuno i gynnal Ymgynghoriad ar Strategaeth Lefel Uchel Drafft ar gyfer yr Awdurdod.
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau gytuno i gynnal ymgynghoriad ar Strategaeth Lefel Uchel drafft ar gyfer yr Awdurdod.

19/21 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2020/21 ac i lywio’r datganiad.

20/21 Cynllun Datblygu Lleol 2: Ymgynghoriadau ar y Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae’r adroddiad hwn yn gofyn i’r Aelodau ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ar yr ymgynghori a wnaed ar y Canllawiau Cynllunio Atodol drafft. Gofynnir i’r Aelodau fabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol newydd ac a ddiweddarwyd yn amodol ar newidiadau a gynigir mewn ymateb i’r ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd.

21/21 Diwygio Arfaethedig i Reolau Sefydlog 5.1 a 5.4: Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd
Gofynnir i’r Aelodau gytuno i ddiwygio’r weithdrefn o ethol Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod a/neu ei Bwyllgorau i gynnwys sefyllfa yn y dyfodol lle bydd rhai neu pob un o’r Aelodau o bosibl yn mynychu cyfarfod o bell.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd