Hysbysiad Preifatrwydd – Holiadur datblygu prosiect Gwella o’r Gwraidd

Cyhoeddwyd : 02/12/2020

Paratowyd yr holiadur hwn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fel rhan o’r gwaith o ddatblygu prosiect newydd o’r enw Gwella o’r Gwraidd.

Tîm y prosiect yw Graham Peake (prif swyddog y prosiect arfaethedig) a Tom Moses, sy’n rhan o’r Tîm Darganfod yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac sy’n gweithio ar ddatblygu briff prosiect Gwella o’r Gwraidd.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i wneud y canlynol:

  • Canfod y rhwystrau sy’n ei gwneud hi’n anodd i grwpiau neu bobl penodol grwydro’r Parc Cenedlaethol
  • Canfod pa mor aml mae pobl mewn categorïau defnyddwyr penodol yn gallu crwydro’r Parc Cenedlaethol
  • Deall dymuniadau grwpiau ac unigolion ar gyfer prosiect sy’n ceisio rhoi cyfleoedd gwirfoddoli â chefnogaeth yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau
  • Gwneud argymhellion y gellir eu defnyddio i ddatblygu’r prosiect arfaethedig cyn gwneud cais am gyllid.

Pwrpas yr holiadur yw casglu barn unigolion am y prosiect arfaethedig, Gwella o’r Gwraidd.  Defnyddir yr wybodaeth i ddatblygu brîff y prosiect cyn gwneud cais am gyllid.

Y sail gyfreithiol dros brosesu’r data yw caniatâd. Rhaid i unigolion roi caniatâd clir i ni brosesu eu data personol at y diben a amlinellir uchod.

 

Pa ddata personol sy’n cael ei gasglu?

  • Gofynnir am enw a manylion cyswllt gan unigolion a allai fod â diddordeb mewn cymryd rhan fwy gweithredol yn y prosiect yn y dyfodol.  Bydd y manylion cyswllt yn cael eu cadw ar wahân ac ni fyddant yn gysylltiedig â’ch ymatebion i’r cwestiynau.  Gellir cwblhau’r arolwg yn ddienw.
  • Bydd y data categori arbennig canlynol yn cael ei gasglu fel rhan o’r arolwg: data sy’n ymwneud ag iechyd. Pan fydd y data’n cael ei lwytho i lawr i’w ddadansoddi, bydd data categori sensitif (data personol sy’n ymwneud ag iechyd) yn cael ei godio, a’i gadw ar wahân i’ch manylion cyswllt ac ni fydd yn gysylltiedig â nhw. Bydd yr holl ddata’n cael ei storio’n ddiogel ar-lein ac yn cael ei ddiogelu gan gyfrinair.

 

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol?

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn mynnu bod amodau penodol yn cael eu bodloni er mwyn sicrhau bod prosesu eich data personol yn gyfreithlon. Dyma’r amodau perthnasol hyn:

 

Manylion Cyswllt

  • Caniatâd Erthygl 6 (1)(a): mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei data/ddata personol at un neu ragor o ddibenion penodol;

 

Data sy’n ymwneud ag Iechyd (Data Categori Arbennig)

  • Erthygl 9(2)(a) Caniatâd Penodol: mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd penodol i brosesu’r data personol hynny at un neu ragor o ddibenion penodol. Caniatâd Erthygl 6 (1)(a): mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei data/ddata personol at un neu ragor o ddibenion penodol;

 

Prosesydd Data – Adnodd Arolwg Ar-lein (SurveyMonkey)

Bydd eich atebion i’n cwestiynau’n cael eu storio’n ddiogel ar-lein yn ein hadnodd arolwg. Mae’r arolwg hwn yn defnyddio’r adnodd arolwg ar-lein SurveyMonkey i gasglu data. Mae’r data sy’n cael ei gasglu drwy SurveyMonkey yn cael ei gynnal a’i gadw yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Iwerddon. Mae SurveyMonkey wedi rhoi sicrwydd eu bod yn bodloni safonau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data; cydymffurfio â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ar SurveyMonkey.

 

Gyda phwy fyddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth?

Dim ond am y rhesymau canlynol y byddwn yn rhannu gwybodaeth a ddarperir fel rhan o’r arolwg:

  • Data dienw: Ar ddiwedd y cyfnod y bwriedir dosbarthu’r holiadur a chasglu ymatebion, byddwn yn rhoi data gwirioneddol ddienw i’r tîm sy’n gyfrifol am ddatblygu’r cais am gyllid Gwella o’r Gwraidd (byddwn yn adolygu data cyn ei drosglwyddo i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o’r cynnwys).
  • Manylion Cyswllt: Byddwn hefyd yn trosglwyddo manylion cyswllt pobl sydd eisiau bod yn rhan o’r prosiect yn y tymor hwy (yn amodol ar gytundeb ychwanegol gan yr unigolion hynny ar y pryd) i dîm prosiect Gwella o’r Gwraidd.  Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg i ddileu eich manylion cyswllt a ddarparwyd fel rhan o’r arolwg hwn drwy anfon e-bost at e-mailing Graham Peake.

 

Pa mor hir ydyn ni’n cadw gafael ar eich gwybodaeth?

Byddwn yn dileu’r holiaduron wedi’u llenwi o lwyfan Survey Monkey o fewn pythefnos i’w derbyn.  Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarperir gennych yn yr holiadur hwn am ddim mwy na chwe mis.  Cedwir manylion cyswllt (os ydynt wedi’u darparu) yn amodol ar gymeradwyaeth unigol a byddant yn cael eu dileu o’n systemau o fewn blwyddyn oni roddir cymeradwyaeth ddilynol gan yr unigolyn a enwir.

 

Eich Hawliau

O dan Reoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018, mae gennych chi hawliau fel unigolyn, gan gynnwys:

  • Yr hawl i Gywiro – mae gennych hawl i ofyn am gael cywiro eich gwybodaeth.
  • Mae’n bosibl y bydd hawl i Gyfyngu ar brosesu – efallai y byddwch yn gofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, efallai y bydd hyn yn achosi oedi neu’n ein rhwystro rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond efallai y bydd gofyn i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw hwn yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio Awtomataidd.
  • Hawl Mynediad – mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch data personol.

I wneud cais ynglŷn â data sy’n cael ei gasglu fel rhan o’r arolwg hwn, cysylltwch â Graham Peake.

 

Cwynion neu Ymholiadau

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ceisio cyrraedd y safonau uchaf pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol. Am y rheswm hwn, rydyn ni’n cymryd unrhyw gwynion a gawn o ddifrif. Rydyn ni’n annog pobl i ddweud wrthym ni os ydyn nhw o’r farn bod y modd rydyn ni’n casglu neu’n defnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n anaddas. Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion llawn yr holl agweddau ar ein gwaith o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydyn ni’n barod i ddarparu unrhyw wybodaeth neu eglurhad pellach os bydd hynny’n angenrheidiol. Dylid anfon unrhyw geisiadau am hyn i’r cyfeiriad isod:

Swyddog Diogelu Data, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY
E-bost Swyddog Diogelu Data, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Ffôn: 01646 624800

Os ydych chi eisiau cwyno am y ffordd rydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru
2il Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn 0330 414 6421
Ebostiwch Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth – Cymru

 

Dyma ein Manylion Cyswllt fel Rheolydd Data

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY
Ebostiwch Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Ffôn: 01646 624800

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cofrestru fel Rheolydd Data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth). Rhif cofrestru: Z6910336.

Mae gwybodaeth ein Swyddog Diogelu Data wedi’i nodi uchod yn yr adran Cwynion ac Ymholiadau.

 

Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn

Rydyn ni’n adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.