Yr Heol Aur

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 7.4 milltir (12.0 km) 4 awr un ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Rosebush 344 (Dydd Mawrth yn unig)
CYMERIAD: Llwybr llinol ar hyd copa’r grib, rhostir garw, da byw, corsiog mewn mannau
CHWILIWCH AM: Heol aur o gynhanes • tomenni claddu o’r Oes Efydd • Carn Menyn – safle cerrig glas Côr y Cewri • golygfeydd gwych • wrth grwydro oddi ar y llwybr – Foeldrygarn, bryngaer drawiadol o’r Oes Haearn
MWY O WYBODAETH: Cadwch at lwybrau sydd wedi eu cerdded yn dda er mwyn osgoi ardaloedd corsiog. Nid yw’r llwybr wedi’i farcio ar y bryn agored. Fe all y tywydd newid yn gyflym, felly paratowch yn ofalus: map a chwmpawd; dillad addas a dognau.

Mae cerdded yr Heol Aur yn brofiad cyffrous. Mae’n eich tywys chi ar hyd crib y Preseli ar draws rhostir gwyllt gan ddilyn llwybr sy’n dyddio nôl i’r cyfnod Neolithig, 5,000 o flynyddoedd yn ôl, medde nhw.

Fe ysgrifennodd y darlledwr a’r awdur Wynford Vaughan-Thomas am y profiad: “Ym mhob man rydych chi’n teimlo presenoldeb yr adeiladwyr bedd megalithig, y rhyfelwyr Oes Haearn a bentyrrau’r cerrig ar gyfer y bryngaerau mawreddog a’r hen saint Celtaidd caredig ac anghofus.”

Roedd y trac yn llwybr pwysig ar gyfer teithwyr o gynhanes i Iwerddon ac oddi yno. Efallai hefyd fod cerrig gleision Sir Benfro a ddefnyddiwyd gan adeiladwyr Côr y Cewri (Stonehenge) wedi teithio’r gilffordd hon hefyd.

Mae’r golygfeydd yn wefreiddiol, ac ym mhob man ar hyd y daith mae yna olion o gynhanes i’w gweld. Gan ddechrau yn y gorllewin, mae’r llwybr yn dechrau yn weddol agos at Foel Eryr, sydd â charnedd gladdu ar ei chopa.

Mae’r carneddau carreg yn dyddio o’r Oes Efydd ac yn nodi claddedigaethau, fwy na thebyg rhywun a oedd unwaith yn berson pwysig iawn yn lleol. Ar ôl ymylu ar Goedwig Pantmaenog mae’r llwybr yn dringo i Foel Feddau.

Mae yna garnedd ar Foel Feddau hefyd, a thwr caregog Carn Bica. Chwiliwch yn agos at Garn Bica am drefniant o gerrig a elwir yn Beddarthur, sef cylch o gerrig mewn siâp llygad. Dywedir mai yma y claddwyd y Brenin Arthur.

Mae ffurf ddanheddog Carn Menyn – fel holl dyrrau’r Preseli – yn ganlyniad i sawl mil o flynyddoedd o erydiad gan dywydd garw ar y graig dolerit neu’r cerrig gleision.

Yn draddodiadol, y copa caregog oedd ffynhonnell y garreg a ddefnyddiwyd i adeiladu carreg fewnol Côr y Cewri (Stonehenge). Mae hefyd yn werth ymdrechu i ddringo’r brigiad ar frig Foeldrygarn, ar gyfer yr olygfa ac i weld ei fryngaer Oes Haearn.

O fewn y gaer, mae yna dri charn sy’n hŷn na’r gaer ac yn rhoi’r enw i’r bryn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN166331

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi