Ynys Sgomer

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.0 milltir (6.4 km) 3 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Pâl Gwibio 400 i Martin’s Haven (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Taith gerdded ar hyd yr ynys, ymylon clogwyni
CHWILIWCH AM: Pâl, gweilch y penwaig, heligogod (Ebrill i Orffennaf), y frân goesgoch, tylluanod clustiog, gwylanod, morloi • clychau’r gog ym mis Mai/Mehefin • grug ym mis Awst/Medi
MWY O WYBODAETH: NI CHANIATEIR CWN AR YR YNYS. Arhoswch ar y llwybr troed ar bob adeg. Tâl am deithio ar y cwch a ffi wrth lanio ar yr Ynys. Ffoniwch Dale Sailing (01646 603123) ar gyfer diwrnodau/amserau croesi ayb.

Mae Sgomer, y mwyaf o ynysoedd Sir Benfro, yn lle cyfareddol i’w archwilio. Daw’r rhan fwyaf o ymwelwyr i’r Warchodfa Natur Genedlaethol i weld ei adar gwyllt a’i blanhigion, sydd ar eu gorau yn ystod y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf.

Mae gan Sgomer y gytref fwyaf o adar  môr yn ne Prydain. Ym mis Mai a Mehefin, mae miloedd o weilch y penwaig a heligogod, yn ogystal â gwylanod y graig a gwylanod coesddu, yn magu eu rhai bach ar silffoedd y graig tra bod y pâl yn nythu mewn tyllau yn y pridd ar gopa’r clogwyni.

Ar yr ynys hefyd y mae’r gytref fwyaf o balod Manaw yn y byd. Mae dros 100,000 pâr o balod yn nythu mewn tyllau ar yr ynys.

Maen nhw’n treulio’u diwrnod yn y môr ac yna’n dod yn ôl i fwydo’u rhai bach yn y nos yn unig; ar un adeg, diolch i lefain cras yr adar, roedd gan Sgomer enw fel Ynys yr Eneidiau Coll.

Chwiliwch hefyd am forloi llwyd, llamhidyddion a dolffiniaid. Mae’r ynys yn fôr o liw yn y gwanwyn pan fydd clychau’r gog a lluglys yr ychen yn blodeuo mewn mannau cysgodol, tra bod clustog Fair a’r gludlys arfor yn gorchuddio copa’r clogwyni.

Mae gan Sgomer hanes o anheddiad dynol hefyd. Dywedir bod y garreg sefyll unigol a elwir yn Garreg Harold yn dyddio nôl i’r Oes Efydd.

Ond mae’r olion archeolegol pwysicaf yn rhai hwyrach, ac yn dyddio nôl i’r Oes Haearn – rhwng 650 CC a 100OC.

Bryd hynny, credir bod dros 200 o bobl yn byw ar yr ynys. Chwiliwch am gliwiau i’r gymuned hon o’r Oes Haearn, gan gynnwys olion pedair anheddiad a chaer fechan.

Ar yr ynys hon hefyd ceir rhai o’r systemau cae gorau i oroesi o’r Oes Haearn ym Mhrydain. Yn y gwanwyn, mae ffiniau 2,000 mlwydd oed y caeau i’w gweld yn glir – y lle gorau i’w gweld nhw yw gerllaw’r gilfach a elwir yn The Wick.

Yn ddiweddarach, mae’n debygol fod yr ynys yn fan aros ar gyfer Llychlynwyr. Credir bod enw’r ynys o darddiad Sgandinafaidd.

Nodwch: nid oes unrhyw gyfleusterau arlwyo ar Sgomer.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM724094

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau