Ynys Dinas

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 0.6 milltir (1.0 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Poppit Rocket i Bwllgwaelod (tymhorol) – NID yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn
CYMERIAD: Cwm tawel, rhannol goediog.

Llwybrau concrid wedi eu gwneud yn arbennig i safonau a gymeradwywyd gan BT; mae’r cwymp croes yn ddibwys. Seddi aml, pedair giât.

Adran ar draws parc carafannau Cwm yr Eglwys, 90m, yn arwyneb o we concrid y mae porfa’n tyfu drwyddo. Effaith herciog pan fyddwch yn ei groesi mewn cadair olwyn.

Golygfeydd da o’r môr (a’r traeth) ar bob pen. Toiledau ym Mhwllgwaelod. Cadair Olwyn 1.0 km.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN004399

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau