Y Parc Ceirw i Hostel Ieuenctid Marloes

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.4 milltir (5.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Marloes 316, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Dwy sticil ar y llwybr, yn hawdd i gymedrol, un llethr serth, un ffrwd fwdlyd gul i’w chroesi, 1.0 milltir (1.7 km) o gerdded ar isffyrdd.

Dechreuwch o faes parcio Martin’s Haven. Trowch i’r chwith trwy’r giât wiced ar waelod y maes parcio a dilynwch ymyl y clawdd i ailymuno â Llwybr yr Arfordir ar ôl ail giât.

O’r fan hon, i Rhathlan Watery Bay, naill ai dilynwch ymyl gwastad y cae (graddiannau yn llai na 1 mewn 25) neu’r llwybr mwy garw ar hyd rhan wreiddiol Llwybr yr Arfordir.

Mae gan y llwybr tuag at y môr well olygfeydd ond mae yna rhai graddiannau hefyd. O’r fan hon, edrychwch ar ynysoedd Sgomer, Midland, Sgogwm a Gateholm.

Mae’r graddiannau’n fach tan i chi gyrraedd Rhathlan Watery Bay, Heneb Rhestredig. Mae yna raddiant serth o 1 mewn 6 am 15m i lawr nant fwdlyd a llethr serth i fyny sy’n 1 mewn 4 am 8m.

O ganlyniad i ddynodiad y safle, nid oes unrhyw welliannau wedi eu gwneud i groesi’r nant. Ar frig y llethr, croeswch dros un sticil a pharhewch ar hyd ymyl y cae i gyrraedd giât wrth ymyl sticil.

Croeswch y sticil neu ewch drwy’r giât a pharhewch ar hyd trac llydan sy’n wastad gyda graddiannau gwastad. Edrychwch ar y cynefinoedd corsog gyda’u hamrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid.

Mewn tywydd gwlyb, mae’r trac weithiau’n gorlifo am ryw 50m. Ewch ymlaen heibio Hostel Ieuenctid Traeth Marloes a throwch i’r chwith fel eich bod chi ar yr heol, gan gerdded i lawr yr allt i ddod nôl at faes parcio Martin’s Haven.

Ar adegau prysur, fe all yr heol hon fod yn brysur iawn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM757089

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau