West Williamston/Caeriw

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.8 miles (6.1 km) 1 hours 30 minutes
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Caeriw 360/361
CYMERIAD: Gradd hwylus, sticlau cerrig uchel, 2.2 milltir (3.5 km) o lonydd tawel, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Melin Lanw • Castell Caeriw• pwll y felin • golygfeydd o’r afon • adar y dŵr
MWY O WYBODAETH: Caeau a da byw.

Mae Pwll Melin Caeriw ynghyd â’r Felin a’r Castell sy’n edrych allan drosto, yn un o hoff leoliadau pobl Sir Benfro.

Rhoddwyd pŵer Afon Caeriw ar waith gryn amser yn ôl i falu ŷd – mae yna dystiolaeth i ddweud bod yna felin yng Nghairew mor gynnar â 1542.

Fwy na thebyg bod y felin bresennol, a elwir yn Felin Ffrengig, yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Credir bod ei henw’n cyfeirio at y cerrig Ffrengig a ddefnyddiwyd i wneud ei meini melin.

Cymerodd y Normaniaid awenau De Sir Benfro yn gyntaf ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Strwythur o bridd a phren oedd castell cyntaf Caeriw, ond yn ddiweddarach, fe ddaeth adeilad o gerrig yn ei le.

Ychwanegwyd ochr gogleddol coeth y castell, gyda ffenestri sy’n edrych allan dros bwll y felin, yn yr 16eg ganrif, ac mae’n rhoi ychydig o ymddangosiad maenordy Elisabethaidd i’r hen amddiffynfa.

Mae Afon Caeriw yn rhan o’r patrwm ymganghennog o gilfachau wrth galon Sir Benfro o amgylch y Daugleddau sy’n ria glasurol, sef cyfres o gymoedd afon a ffurfiwyd cyn yr Oes Iâ diwethaf, ac yna a “foddwyd” wrth i lefelau’r môr godi.

Heddiw, mae’r ddyfrffordd yn dawel ac mae ei fflatiau mwd a’i forfeydd heli yn gynefin perffaith i rhydwyr ac adar gwyllt ac mae yna siawns hefyd y gwelwch chi grëyr a glas y dorlan.

Ym mis Gorffennaf ac Awst efallai hefyd y gwelwch chi’r brithribin brown prin, sef pili-pala bach cain gydag oren o dan ei adenydd; fwy na thebyg y gwelwch chi’r pili-pala yma yn agos at gloddiau o ddraenen ddu, oherwydd mae’n dodwy ei wyau ar ddail y coed.

Roedden nhw’n chwarelu cerrig calch yn Sir Benfro ers canrifoedd, llawer ohono i’w brosesu i mewn i’r calch yr oedd ffermwyr yn ei ddefnyddio ar eu caeau ac i wneud morter.

Gweithiwyd chwarelau Williamston wrth ymyl y dŵr ble yr oedden nhw’n gorlifo pan fyddai’r llanw’n uchel gan alluogi cychod camlas i gael eu tynnu i mewn a’u llwytho gyda cherrig.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN042046

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi