Upton

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.6 milltir (4.2 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Mae’r ardal hon yn rhan o gynllun Bws Fflecsi Gogledd Sir Benfro.
CYMERIAD: Coetir, caeau a da byw, gweddol wastad, 600 m o gerdded ar heolydd tawel
CHWILIWCH AM: Gerddi Castell Upton (ffi mynediad) • adar gwyllt a rhydwyr.

Diolch i’r rhwydwaith o gilfachau sy’n ymganghennu o amgylch y Daugleddau nid oes unrhyw le yng nghanol Sir Benfro sy’n fwy na 10 milltir i ffwrdd o ddŵr llanwol ar unrhyw adeg.

Ar y llwybr hwn, mae ystadau Upton a Paskeston gerllaw yn dangos yr agosrwydd yna; mae’r llwybr yn dilyn traethlin dwy gilfach, Ford Pill ac Afon Caeriw, a heb fod ymhellach y tu hwnt iddyn nhw mae’r Daugleddau.

Mae Cosheston Pill, sy’n torri i mewn o’r gorllewin, yn gwneud ei orau i osod Upton a Paskeston ar ynys. Mae holl ddyfrffyrdd y Daugleddau yn rhan o ria clasurol, sef cyfres o gymoedd afon a ffurfiwyd cyn yr Oes Iâ diwethaf ac yna a “foddwyd” pan gododd lefelau’r môr.

Wrth i’r llanw godi a disgyn yn Ford Pill ac Afon Caeriw, mae’r golygfeydd yn newid, o ehangder o ddŵr i fwd a chors noeth pan fydd y llanw’n cilio. I’r adar, mae’n amser bwydo pan fydd
y llanw’n isel.

Mae mwd cyfoethog yr aber yn llawn o anifeiliaid a phlanhigion bach sy’n fwyd ar gyfer adar ac adar gwyllt sy’n rhydio, fel hwyaid yr eithin. Hwyaden ddu a gwyn fawr yw hwyaden yr eithin ac mae ganddi fand oren ar draws ei bron.

Gerllaw, Castell Caeriw yw un o’r cestyll enwocaf yn Sir Benfro. Ond mae’r Daugleddau hefyd yng nghanol olion cestyll llai a adeiladwyd gan y Normaniaid fel amddiffynfeydd eilaidd, rhai ohonynt wedi dod yn gartrefi amddiffynedig.

Fwy na thebyg yr adeiladwyd Castell Upton, un o’r amddiffynfeydd llai hyn, yn y 13eg ganrif, ac am ganrifoedd, fe fu’n gartref i deulu’r Malefant. Mae’n dal i fod yn gartref preifat.

Am lawer o flynyddoedd, rheolwyd Gerddi Castell Upton gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Erbyn hyn, sefydlwyd ymddiriedolaeth elusennol i barhau gyda gwaith yr Awdurdod.

Mae’r gerddi yng nghanol llethrau coediog gyda golygfeydd gwych dros ddyfrffyrdd i’r dwyrain, y gogledd a’r gorllewin. Mae yna deithiau cerdded hyfryd yn y gerddi 15 hectar (37 erw), a therasau ffurfiol, gwelyau rhosod a chapel canoloesol gyda llunddelwau.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN020047

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi