Tyddewi

Teithiau Byr

Tyddewi, Meidr Dwyll

PELLTER: 1.3 milltir (2.1 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cerdded hawdd, arwyneb palmant ac arwyneb naturiol, lonydd tawel. 2 sticil.

O Cross Square trowch i mewn i Nun Street (i’r chwith o The Pebbles). Trowch i’r chwith ar ôl y tŷ pinc, gyda’r arwydd Taith Gerdded Dinas Tyddewi/St Davids City Walk.

Chwiliwch am giât ar y dde ac ewch drwyddi, yna dilynwch y llwybr at y giât gyferbyn. Ewch drwy’r giât, dilynwch y path caeedig ac wrth y cyffordd-T (T-junction), wrth y postyn marcio llwybr, trowch i’r chwith.

Dilynwch y llwybr caeedig dros sticlau i lawr i’r nant ar y gwaelod ac arhoswch ar y llwybr, gyda’r nant ar y dde. Ar yr heol darmac, croeswch y bont, trowch i’r chwith a dilynwch yr heol i wal olion Palas yr Esgob.

Trowch i’r chwith a dilynwch lôn darmac at bont droed. Dilynwch yr heol i fyny’r tyle, o dan y bwa, yn ôl i Cross Square.

Tyddewi, Carn Warpool

PELLTER: 1.3 milltir (2.1 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Cymharol wastad, caeau ag anifeiliaid, peth cerdded ar yr heol. 1 sticil ysgol, cae gwlyb, 1 giât mochyn.

Cerddwch i lawr The Pebbles, o dan y bwa ac i lawr y tyle. Wrth y giât yn Wal yr Eglwys Gadeiriol, trowch i’r chwith, ac wrth y groesfan trowch i’r chwith ac yna i’r dde ar unwaith, ac ar frig yr heol trowch i’r dde.

Dilynwch yr heol allan o’r ddinas ac, ar ôl y tŷ diwethaf ar y dde, trowch i’r chwith wrth y mynegbost. Dilynwch y llwybr ar ymyl y cae, gan gadw’r clawdd ar y dde.

Ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr llydan (rhodfa mewn mannau) ar draws cae gwlyb. Ewch drwy’r giât mochyn, ar hyd y llwybr pentir, dros y sticil ysgol a throwch i’r chwith arno i’r llwybr caeedig.

Trowch i’r chwith arno i heol darmac ac, ar ôl tro yn yr heol, cadwch i’r chwith, yna trowch i’r chwith. Ar ôl y tŷ pinc trowch i’r dde ac ewch yn syth ymlaen wrth y groesfan yn ôl y ffordd y daethoch i fyny’r tyle at y man cychwyn.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeiriad Grid: SM752260

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi