Tyddewi Hanesyddol

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.3 milltir (2.1 km) 45 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Hawdd i gymedrol, llwybrau troed naturiol a phalmentydd, lonydd tawel, cerdded ar is-ffyrdd yn bennaf, RHYBUDD croesi’r briff ffordd mewn pedwar lle
CHWILIWCH AM: Eglwys Gadeiriol Tyddewi a’r cyffiniau, Llys yr Esgob, hen fythynnod bach a strydoedd tlws.

Mae’r daith gerdded 1.3 milltir hon, sy’n dechrau ac yn gorffen yn Oriel y Parc, yn cynnwys un o olygfeydd mwyaf godidog y Parc Cenedlaethol.

Ar ôl cerdded drwy ganol y ddinas fechan hon, mae’r olygfa rydych chi’n ei gweld o giât yr eglwys gadeiriol yn drawiadol, gyda’r eglwys ei hun yn cuddio yn y cwm isod a gallwch weld amlinelliad Penmaendewi a Charn Llidi i’r gorllewin.

Mae’r rhan fwyaf o eglwysi cadeiriol yn tra-arglwyddiaethu ar yr ardal o’u cwmpas, ond adeiladwyd eglwys gadeiriol Tyddewi mewn cwm ar safle cymuned Gristnogol Dewi.

Mae Tyddewi yn lle rhyfeddol ac mae tua 200 o adeiladau rhestredig yno, gan gynnwys yr eglwys gadeiriol a Llys yr Esgob. Yn y gorffennol, roedd yn cael ei galw’n ddinas oherwydd bod eglwys gadeiriol yno, ond dim ond ers 1995 y mae’r bobl leol wedi cael galw eu cymuned yn ddinas yn swyddogol.

Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi ar hyd Clos y Gadeirlan, lle gallwch weld gwartheg a defaid yn pori er mwyn helpu i ddiogelu’r dirwedd hynafol hon. Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer Sir Benfro ac mae’n gweithio’n galed i ddiogelu cymeriad arbennig yr ardal.

Ar y daith gerdded hon yn Nhyddewi, byddwch yn mynd heibio nifer o enghreifftiau o hen adeiladau sydd wedi cael eu hadfer yn ystyriol, yn ogystal â rhai newydd sydd wedi cael eu hadeiladu yn yr arddull frodorol.

Cadwch lygad am adeilad yr hen ysgol sydd wedi cael ei droi’n ganolfan i bererinion, tŷ sydd newydd gael ei adeiladu mewn arddull ‘Hobbit’ chwareus, a thŷ crwn rhestredig mewn arddull Art Deco.

Trowch i’r dde oddi ar Glos y Gadeirlan ar lwybr troed tuag at Dŷ’r Pererin ac ymlaen i’r Cwcwll, wedyn trowch i’r chwith a chroesi’r ffordd, a throwch i’r dde yn syth i fynd ar y llwybr troed wrth ochr yr ysgol gynradd i Heol Non.

Trowch i’r dde ac yna i’r chwith i fyny Feidr Pedr ac ymlaen i Heol Newydd. Cadwch i’r chwith tuag at yr archfarchnad ac wedyn trowch i’r dde a chroesi’r ffordd ger y man chwarae ac wedyn i fyny’r lôn/llwybr troed i ymuno â Feidr Glasfryn. Trowch i’r dde i ddychwelyd i Oriel y Parc.

Cafodd y gymuned hon ger Afon Alun ei sefydlu gan Dewi yn y 6ed ganrif. Daeth yn fwy pwysig ar ôl ei farwolaeth ac roedd pererinion yn teithio i dalu teyrnged iddo wrth ei gysegrfan am ganrifoedd wedi hynny.

Cafodd Dewi ei dderbyn i’r canon yn 1120 pan ddyfarnwyd bod dwy bererindod i gysegrfan y sant gyfystyr ag un bererindod i Rufain.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM753252

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi