Tretio/Pwllcaerog

Taith Fer

PELLTER/HYD: 3.4 milltir (5.4 km) 1 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Mae gweithredwr Gwasanaeth 404 (Strumble Shuttle) wedi canslo’r gwasanaeth o Ebrill 5 2023. Yn y cyfamser, mae’r ardal a gwmpesir gan Wasanaeth 400 yn rhan o gynllun Bws Fflecsi Gogledd Sir Benfro (agor mewn ffenestr newydd).

CYMERIAD: Arfordirol, cerdded ar ymyl clogwyni, caeau a da byw, lonydd fferm, mwdlyd mewn mannau esgyniad/disgyniad serth i Aberpwll (llwybr gwahanol ar gael), 160 llath (150 m) o gerdded ar isffyrdd
CHWILIWCH AM: Fryngaer Oes Haearn Castell Coch (taith fer oddi ar y llwybr) • bythynnod traddodiadol Sir Benfro • golygfeydd arfordirol/tua’r tir • blodau’r gwanwyn • chwarelau’r môr yn Aberpwll
SYLWER: Dim parcio ceir. Mynediad i gerddwyr ar y bws yn unig.

Mae’r arfordir rhwng Penclegyr, ger Abereiddi, a Phenmaendewi yn arbennig o wyllt a garw. Cymerwch ofal wrth gerdded ar hyd yr adran arfordirol oherwydd mae arwyneb y llwybr yn rhydd ac yn garegog mewn mannau.

Mae strwythur sylfaenol yr arfordir, gyda’i bentiroedd a’i gildraethau bach fel Aber-pwll, yn dyddio nôl i’r cyfnod Ordoficaidd tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, gwelodd y gweithgarwch folcanig y lafa yn gwthio ei ffordd drwy haenau Cyn-Gambriaidd lawer yn hŷn.

Dros filiynau o flynyddoedd mae’r tywydd a’r môr wedi bwyta’r creigiau Cyn-Gambriaidd yn llawer mwy effeithiol na’r Ordoficaidd. O’r tir uwch yn Nhretio mae’r cyfan yn gwneud synnwyr perffaith – mae yna olygfeydd gwych o’r tir uchel Ordoficaidd, gan gynnwys Pen Strwmbl a Phenberi.

Yn agos at y llwybr hwn mae Castell Coch, bryngaer Oes Haearn sydd wedi’i hindreulio. A oedd y bobl a oedd yn byw yma yn ystod y canrifoedd cyn i’r Rhufeiniaid ddod i Brydain yn mwynhau golygfeydd morol mor odidog â hon?

Yn wir, mae’n olygfa drawiadol iawn; ar ddiwrnod clir fe allwch chi weld Bryniau Wicklow 120km (75 milltir) i ffwrdd yn Iwerddon. Lawer yn agosach, mae’r môr yn treulio’r tair ynysig garegog, Lechuchaf, Llechganol a Lechisaf, tua milltir oddi ar y lan.

Mae’r dirwedd yn frith o fythynnod bach traddodiadol Sir Benfro a ffermydd teuluol bach. Nid yw ffiniau rhai o’r caeau sy’n cael eu gweithio gan y genhedlaeth o ffermwyr sy’n byw yma heddiw wedi newid mewn dros fil o flynyddoedd, ac efallai mwy.

Profiad gwych yw cerdded adran arfordirol y daith yn hwyr yn y gwanwyn pan fydd y clogwyni’n ardd greigiau naturiol o flodau gwyllt. Y rhywogaeth fwyaf trawiadol sy’n ffynnu ar y pridd tenau yw clustog Fair, sy’n cynhyrchu toreth o flodau pinc, siâp pêl ym mis Mai.

Chwiliwch am adar y môr fel gwalch y penwaig, gwylan y graig, y bilidowcar a’r fulfran werdd, tra bod yr hebog tramor yn aml yn hela ar hyd y darn hwn o arfordir.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM783298

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau