Trefin

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.0 milltir (6.5 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefin 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Tir arfordirol garw, caeau a da byw, taith gweddol wastad, sticlau
CHWILIWCH AM: Cromlech Carreg Samson • chwarel Trwyn Llwyd a Melin Aberfelin
MWY O WYBODAETH: Parcio cyfyngedig yn Aberfelin ac Abercastell.

Taith heddychlon heb ei difetha sy’n gyfoeth o hanes.

Garw ond unig, tawel a heb ei difetha gyda chlogwyni ymdroellog hardd (chwiliwch am y bwa naturiol yn y graig ger Pen-Castell Coch) a thraethau – mae’r morlin ger Trefin yn arbennig o gyfoethog o ran archeoleg.

Mae cromlech Neolithig Carreg Samson (tua 3000 CC) yn fyd-enwog. Yn ôl y chwedloniaeth fe gododd Samson o’r Beibl y benllech i’w lle gyda’i fys.

Gerllaw, yn Ynys-y-Castell mae bedd bys Samson – yn gynharach yn ystod y ganrif hon llenwyd ochrau’r gofgolofn i mewn ac fe’i defnyddiwyd fel cysgodfan i ddefaid.

Fe stopiodd yr hen felin ddŵr yn Nhrefin a ddefnyddiwyd i falu gwenith a barlys fasnachu yn 1918 ac mae wedi’i hadfer a’i diogelu yn ddiweddar

Gwybodaeth Gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM835325

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau