Trefdraeth/Carningli

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.5 milltir (5.6 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefdraeth T5 (yn hygyrch i gadeiriau olwyn), Poppit Rocket (tymhorol, ddim yn hygyrch i gadeiriau olwyn)
CYMERIAD: Tir serth, garw wrth i chi nesáu at Fynydd Carningli
CHWILIWCH AM: Golygfeydd gwych tua’r tir a’r arfordir o gopa Carningli • Bryngaer Oes Haearn gyda rhannau o ragfur a chylchoedd cwt yn amlwg • Tir comin agored • Castell Normanaidd.

Cyfeiria enw’r dref, Trefdraeth, at y ffaith fod yma dref a thraeth, ond mewn gwirionedd mae gan Drefdraeth ddau draeth – traeth y Parrog a thraeth Trefdraeth – ac mae’r rhain yn cael eu gwahanu gan yr Afon Nyfer.

Mae un o’r bryniau mwyaf trawiadol yn Sir Benfro, sef Carningli greigiog, yn sefyll yn warchodol dros dref Trefdraeth. Wrth i’r haul fachlud, mae siâp Carningli yn erbyn yr awyr goch yn gwneud iddi edrych yn fwy fel llosgfynydd, ac yn wir dyna oedd ar un adeg.

Ei chraig dolerit caled yw’r craidd solid o fagma wedi oeri a oedd unwaith yn galon i’r llosgfynydd. Ond peidiwch â phoeni, mae 450 miliwn o flynyddoedd wedi mynd heibio ers iddi ffrwydro ddiwethaf.

Ystyr Carningli yw Mynydd (Carn) yr Angylion. Efallai ei fod yn safle sanctaidd ymhell cyn yr oes Gristnogol, ond ers Oes y Saint fe fu cysylltiad rhwng pen y bryn a’r sant Celtaidd Sant Brynach.

Nid oes rhyw lawer yn wybyddus am Frynach, a oedd yn genhadwr o’r 6ed ganrif. Disgrifir ef gan un o’r cyfeiriadau prin ato fel ‘Mab Israel’, a dywedir ei fod yn siarad ag anifeiliaid ac adar.

Yn ôl y chwedl, arferai Brynach gymuno ag angylion, o bosib ar gopa Carningli. Gwrandewch am gân yr ehedydd ac efallai y clywch chi alwad trwynol, cras y gigfran hefyd.

Mae Comin Carningli yn borfa i ddefaid, gwartheg a merlod sy’n crwydro’n rhydd. Ymhob man mae yna gliwiau i anheddiad yn yr oes a fu. Roedd yna fryngaer ar Garningli yn ystod yr Oes Haearn, a gellir gweld olion grwpiau o gytiau o’r Oes Efydd rhwng Carningli a Charn Edward.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN056392

COD CEFN GWLAD!

  • Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
  • Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
  • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
  • Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi