Trefin

Teithiau Byr

TREFIN, TRWYN LLWYD

PELLTER: 1.3 milltir (2.0 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefin 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, caeau a da byw. Dim sticlau na grisiau, arwynebau anwastad.

O’r arhosfan bysiau, cerddwch tuag at y swyddfa bost a dilynwch y brif heol allan o’r pentref. O’r maes parcio, trowch i’r dde i’r heol, dilynwch yr heol o amgylch i’r chwith, a dilynwch y brif heol allan o’r pentref.

Cyn gynted ag y byddwch chi allan o’r pentref, chwiliwch am bostyn marcio llwybr ar y dde a dilynwch y llwybr i lawr. Trowch i’r dde i’r heol, yna ewch yn syth ymlaen i lwybr tarmac.

Trowch i’r dde ger olion Melin Trefin a dilynwch Lwybr yr Arfordir. Wrth y mynegbost, cadwch i’r dde, i ffwrdd o Lwybr yr Arfordir (arwydd YHA), gan gadw’r ffens ar y dde. Ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr â ffens.

Pan fyddwch yn cyrraedd y stryd tarmac, ewch yn syth ymlaen ac, ar y diwedd, trowch i’r chwith (mae’r arhosfan bysiau yma), gan gadw i’r dde tuag at yr heol i Abercastell a’r maes parcio

TREFIN, PWLL OLFA

PELLTER: 2.2 milltir (3.5 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefin 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Ymyl clogwyn, caeau a da byw, lôn wledig, peth cerdded ar heolydd bach. 4 sticil.

O’r arhosfan bysiau: Cerddwch i fyny’r heol tuag at ganol y pentref a chymerwch yr heol tuag at Abercastell (chwiliwch am yr arwydd ffordd).

O’r maes parcio: trowch i’r dde i’r heol allan o’r maes parcio, i’r dde eto ac unwaith eto i Ffordd Abercastell. Dilynwch yr heol nes i chi gyrraedd y mynegbost ar y chwith.

Croeswch sticil a dilynwch lwybr tuag at y sticil gyferbyn (nid yw’r llwybr ar ymyl y cae, ond fwy neu lai’n syth rhwng y sticlau). Croeswch y sticil a throwch i’r chwith i’r sticil gerllaw, croeswch y sticil a dilynwch y llwybr ar ymyl y cae, gan gadw’r ffens ar y chwith.

Trowch i’r dde wrth y mynegbost, croeswch sticil i Lwybr yr Arfordir a throwch i’r chwith. Wrth y mynegbost trowch i’r chwith (arwydd YHA), gan gadw’r ffens ar y dde (am ychydig
mae’n edrych fel eich bod chi’n dyblu nôl, ond mae’r llwybr yn troi i’r dde cyn hir).

Ewch drwy’r giât a dilynwch y llwybr â ffens. Wrth gyrraedd y stryd tarmac, ewch yn syth ymlaen ac, ar y diwedd, trowch i’r chwith (mae’r arhosfan bysiau yma), gan gadw i’r dde i’r heol i Abercastell ar gyfer y maes parcio.

 

CHWARELAU TREFIN

PELLTER: 1.0 milltir (1.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Trefin 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Caeau a da byw, cerdded drwy’r pentref, peth cerdded ar heolydd bach. 2 sticil, grisiau.

O’r arhosfan bysiau, cerddwch i fyny’r heol tuag at Groesgoch (gallwch weld yr arwydd ffordd o’r cysgodfan bysiau ar y chwith). O’r maes parcio, trowch i’r chwith i’r heol.

Ar ôl pasio tŷ o’r enw Cwrt-y-Cwm, chiliwch am arwydd llwybr troed metel ar y dde. Trowch i’r dde, dilynwch y trac yn syth ymlaen, a pharhewch ymlaen yn syth i’r llwybr ag arwyneb, wrth i’r prif drac droi’n ardd.

Ar y cyfforddT (T-junction), trowch i’r chwith i fyny’r gris a dilynwch y llwybr tuag at y grisiau, croeswch sticil a throwch i’r dde, gan gadw at lwybr ymyl y cae, gyda’r ffens ar y dde.

Croeswch sticil a dilynwch y trac i lawr. Ar ôl croesi nant, dilynwch hi i’r chwith i fyny tuag at yr heol. Trowch i’r dde i fyny’r heol yn ôl i Drefin.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM832327

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau