Penmaen Dewi

Teithiau Byr

PENMAEN DEWI, COETAN ARTHUR

PELLTER: 2.7 milltir (4.4 km) PENMAENDEWI, CARN LLIDI – 1.4 milltir (2.3 km), allan ac yn ôl
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymyl clogwyn, bryniau, anifeiliaid. 1 sticil, 1 giât mochyn, llwybrau anwastad, grisiau
RHYBUDD: RHAID CADW CWN AR DENNYN ym Mhorthmawr Uchaf, cywion ieir buarth yn crwydro.

O’r maes parcio, cerddwch yn ôl i fyny’r heol, anwybyddwch y trac cyntaf ar y chwith a throwch i’r chwith heibio i’r maes carafannau.

Dilynwch y trac o amgylch i’r dde (dilynwch yr arwydd am olygfan Carn Llidi), trwy fferm, ac arhoswch ar y trac wrth y mynegbost.

Dilynwch y trac i’r chwith, yna i’r dde, ac wrth y fforc wrth arwydd ‘Penmaen Dewi/St David’s Head’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cymerwch y llwybr i’r chwith.

Arhoswch ar y trac a pharhewch yn syth ymlaen ar ôl y cae diwethaf, pan fydd y trac yn troi yn llwybr. Dilynwch y llwybr i lawr y tyle, gan fynd yn syth ymlaen wrth y croesfannau gyda llwybrau eraill.

Pan fyddwch chi’n dod at waelod dyffryn bach, edrychwch ar draws y dyffryn am lwybr sy’n mynd i fyny ochr gyferbyn y dyffryn a chymerwch y llwybr hwn. (Nid oes modd ei weld o’r nant – croeswch y nant, trowch i’r dde ac yna i’r chwith eto arno i’r llwybr amlwg).

Ble mae’r llwybr yn dod yn wastad, dilynwch y llwybr yn syth ymlaen i fyny’r tyle, yna cymerwch y llwybr ar y dde wrth y fforc. Ar y brig, mae’r llwybr yn troi i’r chwith.

Dilynwch y llwybr a pharhewch i fynd yn syth ymlaen hyd nes, wrth y fforc, i chi gymryd y llwybr ar y chwith ar waelod y brigiad caregog a’i ddilyn o amgylch i Coetan Arthur.

Trowch i’r dde wrth Goetan Arthur tuag at y môr, gan anwybyddu’r llwybrau ar y chwith, nes cyrraedd Llwybr yr Arfordir ar ymyl y clogwyn.

Trowch i’r chwith a dilynwch y llwybr amlwg. Pan fydd y llwybr yn mynd i fyny unwaith eto, arhoswch ychydig bach i’r chwith o fan uchaf y brigiad caregog.

Pan fydd y llwybr yn disgyn unwaith eto ac yn lledaenu, cymerwch y llwybr ar y chwith wrth y fforc ar wddf y penrhyn tuag at ochr ddeheuol y penrhyn.

Dilynwch y Llwybr Arfordir amlwg yn ôl tuag at Carn Llidi. Chwiliwch am risiau o’ch blaen ar y dde a dilynwch y llwybr i fyny’r grisiau a dilynwch Llwybr yr Arfordir yn ôl i’r maes parcio, gan gadw’n syth ymlaen wrth y groesfan.

PENMAEN DEWI, CARN LLIDI

PELLTER: 1.4 milltir (2.3 km), allan ac yn ôl
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Llwybr yn dirwyn at y pwynt uchaf ar benrhyn Tyddewi, gweundir agored. 2 sticil. Grisiau.

RHYBUDD: RHAID CADW CWN AR DENNYN ym Mhorthmawr Uchaf, cywion ieir buarth yn crwydro.

O’r maes parcio, cerddwch yn ôl i fyny’r heol, anwybyddwch y trac cyntaf ar y chwith, a throwch i’r chwith heibio i’r maes carafannau.

Dilynwch y trac o gwmpas i’r dde (dilynwch yr arwydd at olygfan Carn Llidi), trwy fferm, ac arhoswch ar y trac wrth y mynegbost.

Dilynwch y trac i’r chwith, yna i’r dde, ac wrth y fforc wrth arwydd ‘Penmaen Dewi/St David’s Head’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cymerwch y llwybr i’r dde.

Parhewch i ddilyn y trac llydan i fyny ac wrth y pyst metel parhewch ar lwybr mwy cul i gopa’r olygfan. Dilynwch y trac yn ôl i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r teithiau hyn

Cyfeirnod Grid: SM726279

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau