Staciau’r Heligog i San Gofan

Taith Cadair Olwyn

PELLTER: 3.1 milltir (4.9 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Coastal Cruiser (yn hygyrch i gadeiriau olwyn – yn rhedeg i Staciau’r Heligog ar benwythnosau a gwyliau banc yn unig)
CYMERIAD: Llwybr milwrol ar glogwyn carreg galch. Yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn pob-tir a sgwteri symudedd cadarn.

Llwybr bendigedig (llwybr ceffyl – 4.9 km), gydag arwynebau amrywiol. Rhediadau i safon Fieldfare; croes-gwymp yn ddibwys.

Nid yw’r llwybr, yn y rhan fwyaf o achosion, yn agos iawn i’r clogwyn, ond gellir gweld golygfeydd ysblennydd dros glogwyni carreg galch.

Oherwydd natur amrywiol yr arwyneb a’r hyd gallai’r stribyn hwn fod yn fwy addas i gadeiriau olwyn antur. Mae defnyddwyr cadeiriau olwyn trydan wedi adrodd eu bod nhw wedi  cwblhau’r daith.

Hyd yn oed ar ddiwrnodau heulog oer, gall effaith y llosg haul fod yn ddifrifol – dylid cario cyfrwng amddiffyn rhag yr haul a dŵr (a siocled!).

Ar gau yn ystod amserau saethu’r maes tanio, fel arfer ar agor yn yr hwyrnosau ac ar benwythnosau. Er mwyn gwybod amserau’r saethu – ffôn 01646 662280.

Dim seddau. Toiledau yng Ngorllewin Freshwater (nid yn agos) a maes parcio Bosherston. Pum clwyd anodd.

Antur 4.9 km.

Find this walk

Grid ref: SR925946

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau