Bae Santes Non i Borth Clais

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.2 milltir (2.0 km) 45 munud bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: dim sticlau, pedwar gris (uchder 9″), hawdd i gymedrol gyda rhai llethrau, dwy lethr serth, llwybr coblog ger y ffynnon, llwybr garw ac anwastad ger Porth Clais.

O’r maes parcio yn St Non’s, y llwybr mwyaf hamddenol tuag at Lwybr yr Arfordir yw’r llwybr o’ch blaen sy’n mynd i lawr tuag at giât mochyn metel. Mae’r llethr yn dechrau yn weddol serth, 1 mewn 8 am 16m, ac yna’n dod yn 1 mewn 23.

Mae’r arwyneb o laswellt a cherrig mân yn weddol wastad. Ar ôl y giât mochyn, mae yna risiau 9″ i lawr a llwybr coblog. O’ch blaen, mae’r ffynnon gysegredig.

Roedd y dŵr yn enwog am ei bŵerau iachusol. I’r dde, mae yna giât mochyn arall a grisiau i lawr sy’n arwain ar draws y cae at olion y capel.

Ewch yn ôl at y ffynnon a pharhewch i fyny tri gris 9″ arall ar lethr hamddenol, ac mae yna lwybr coblog am y 14m nesaf. Parhewch ar hyd y llwybr glaswelltog ac yna trowch i’r dde i ymuno â Llwybr yr Arfordir i lawr llethr sy’n 1 mewn 9 am 18m.

Os ydy hyn yn rhy serth, ewch tuag at giât mochyn ac yna trowch yn ôl at Lwybr yr Arfordir. O’r rhwystr, mae yna lethr serth sy’n 1 mewn 8 am 90m. Mae yna lethr llai, sy’n 1 mewn 13, ac sy’n arwain i fyny at sticil carreg.

Croeswch hwn ac yna ewch yn ôl at olion y capel, neu ewch ar hyd Llwybr yr Arfordir sy’n dilyn clawdd draddodiadol. Yma, symudwyd Llwybr yr Arfordir tuag at y tir oherwydd natur ansefydlog y clogwyni sy’n erydi’n gyflym.

Wrth edrych yn ôl ar yr hen glogwyni jasper a thywodfaen coch, mae’r plygiadau a’r ffawtiau yn creu golygfeydd bendigedig. Yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf, mae’r cloddiau yn gyfoeth o flodau gwyllt fel gludlys arfor a chlustog Fair.

Ymhellach ar hyd y llwybr, mae’r arwyneb yn dod yn fwy garw ac yn anwastad mewn mannau oherwydd y creigwely sy’n ymwthio allan. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i edrych allan dros harbwr bach tlws Porth Clais.

Mae’r llethr i lawr i faes parcio Porth Clais yn serth iawn ac yn arw. Ewch yn ôl yr un ffordd ag y daethoch gyda golygfeydd gwych o’r dirwedd hyfryd.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM747240

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau