Sant Elfis, Solfach

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.4 milltir (3.9 km) 1 awr 15 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Solfach 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, graddiannau serth, sticlau, caeau a da byw
CHWILIWCH AM: Bryngaer Oes Haearn • Cromlech yn Sant Elfis
MWY O WYBODAETH: RHAID CADW CWN AR DENNYN: Mae chwe buwch wedi disgyn dros y clogwyn oherwydd cŵn rhydd.

Mae yna siambrau claddu, porthladdoedd a llond lle o wylanod ar hyd y daith hon i Gribyn.

Y Gribyn yw copa serth y bryn i’r dwyrain o fynedfa’r harbwr. Roedd yn safle amddiffynnol da a ddefnyddiwyd yn yr Oes Haearn fel caer. Ar un adeg, cynhyrchwyd carreg galch yn Solfach ac mae olion odyn galch a ddefnyddiwyd ddiwethaf ym 1900 gerllaw.

Ar y Gribyn, mae yna olygfeydd gwych allan tua’r môr a diolch i’r clystyrau o glustog Fair, serennyn, campion a fioled mae’n lleoliad lliwgar yn ystod y tymor.

Efallai y gwelwch chi ambell aderyn y môr yma – gwylanod, weithiau gwylanod y graig a mulfrain, gydag ambell i jac-y-do a chudyll coch.

Chwiliwch am y Creigiau Du wrth y fynedfa i’r harbwr a phenrhyn Dinas Fawr sy’n ymlwybro tua’r môr. Tua’r tir, mae’n werth ymweld â Siambr Gladdu Sant Elfis uwchlaw Eglwys Sant Teilo.

Mae Ian Meopham, Parcmon Sector y Gorllewin gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Lle da i weld brain coesgoch. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gobeithio ailgyflwyno pori i’r Gribyn er mwyn dod â’r ardal yn ôl at natur trwy gynllun pori Gwarchod y Godiroedd / Coastal Slopes.”

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM805241

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau